Mae adroddiad newydd Care & Repair Cymru yn edrych ar yr heriau, achosion a datrysiadau i fygythiad sy’n targedu ein pobl hynaf sy’n berchnogion eu cartrefi eu hunain.

Mae miloedd o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tai peryglus ac angen help fel mater o frys i gynnal eu diogelwch a’u hannibyniaeth. Yn ôl adroddiad Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru, gan Care & Repair Cymru, mae oedolion hŷn agored i niwed mewn risg o afiechyd a gorfod mynd i ysbyty oherwydd cyflwr eu cartrefi.

Roedd dros 56,000 o bobl hŷn incwm isel angen gwaith atgyweirio ac addasu brys a hanfodol i’w cartrefi yn 2022, a rhagwelir y bydd y ffigur hwnnw yn cynyddu eleni. Gan fod gan Cymru beth o’r stoc tai hynaf yng ngorllewin Ewrop, gyda 26% o’r tai wedi eu hadeiladu cyn 1919, mae atgyweirio ac addasu yn hanfodol ac yn sicrhau bod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.

Darllen yr adroddiad

Enghreifftiau o gyflwr gwael mae staff Gofal a Thrwsio yn ei weld bob dydd

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru:

“Mae ein hadroddiad newydd yn dangos fod angen dybryd am fwy o fuddsoddiad yn nhai pobl hŷn yng Nghymru. Mae’r argyfwng costau byw, y pandemig byd-eang ac ansicrwydd gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig wedi achosi storm berffaith sydd wedi arwain at ddirywiad yng nghyflwr tai ein cenedlaethau hŷn.

“Mae ein gweithwyr achos yn canfod fod anghenion tai ac iechyd cleientiaid yn fwy cymhleth nag erioed o’r blaen. Mae hyn yn naturiol yn golygu fod y datrysiadau yn fwy cymhleth, ond gyda chost deunyddiau yn codi, llai o gontractwyr dibynadwy ar gael, a diffyg cyllid i gefnogi’r rhai ar incwm isel, mae trefnu atgyweiriadau yn her cynyddol.”

Storm Berffaith

Mae cyfnodau clo, ofn COVID-19 ac yn awr argyfwng costau byw wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y tai sydd mewn cyflwr gwael wrth i bobl hŷn sy’n berchnogion tai barhau i oedi gwaith. Wrth i broblemau waethygu, mae atgyweiriadau brys a hanfodol yn dod yn fwy sylweddol a chymhleth a chost gwaith yn cynyddu a chaiff effeithiau tai gwael, llaith ar ddefnyddwyr hefyd ei waethygu.

Mae pwysau cost o fewn y diwydiant adeiladu hefyd wedi gwneud gwaith atgyweirio yn ddrutach. Bu cynnydd enfawr mewn prisiau deunyddiau a llafur, mae prinder sylweddol o gontractwyr medrus yn cael eu hyfforddi ac ymuno â’r gweithlu ac fel canlyniad mae heriau caffael yn nhermau amserlenni a chanfod cyllid digonol i wneud gwaith hanfodol. Mae hyn i gyd yn golygu y bu gostyngiad yn y nifer o bobl hŷn y gall cyrff fel Gofal a Thrwsio eu helpu gyda’r cynnydd mewn anghenion cymhleth a chostau cyfartalog gwaith.

Angen Rhwyd Ddiogelwch

Mae Care & Repair Cymru yn credu y byddai cyflwyno rhwyd ddiogelwch drwy grant ar gyfer tai mewn cyflwr gwael ar gyfer y perchnogion tai hŷn ar yr incwm isaf yn datrys llawer o’r problemau, yn gwneud cartrefi pobl hŷn yn ddiogel a ffit i fyw ynddynt a diogelu miloedd o oedolion hŷn agored i niwed. Byddai hyn yn ei dro yn arwain at well iechyd a llesiant, gostwng derbyn i  ysbytai ac ymweliadau i feddygon teulu a helpu i ostwng pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd Becky Ricketts, Swyddog Polisi Care & Repair Cymru:

“Ni chredwn y dylai pobl hŷn fyw mewn cartref a allai fod yn beryglus neu fyw heb urddas oherwydd eu bod ar incwm isel. Dyna pam fod angen rhaglen grant genedlaethol i fod yn rhwyd ddiogelwch. Byddai’n galluogi pobl hŷn sy’n berchnogion eu cartrefi eu hunain i gael atgyweiriadau brys a hanfodol.

“Fe wnaethom gefnogi dros 56,000 o bobl hŷn ledled Cymru y llynedd. Mae hyn yn golygu fod 56,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn cartrefi mwy diogel, cynhesach a mwy cyfleus gyda mwy o arian yn eu pocedi, diolch i’n gwaith ni.”

Darllen yr adroddiad

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.