Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr neu Fwrdd goruchwylio gan Care & Repair Cymru a phob un o鈥檙 13 Asiantaeth Gofal a Thrwsio, er mwyn sicrhau tryloywder, integriti a llywodraethiant da.

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Care & Repair Cymru yn cynnwys 11 aelod etholedig o lywodraeth leol, sefydliadau academaidd, mudiadau gwirfoddol, cymdeithasau tai ac aelodau unigol. Penodwyd dau aelod o blith 13 Cadeirydd Byrddau Asiantaethau Gofal a Thrwsio ac mae dwy swydd ymgynghorydd, a swyddi sylwedyddion ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Panel Technegol a Choleg Brenhinol Therapyddion Galwedigaethol.

Mae Bwrdd Care & Repair Cymru yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac yn gyfrifol am reoli materion busnes Care & Repair Cymru, yn cynnwys: gosod polisi, gosod targedau, monitro perfformiad a goruchwylio rheolaeth ariannol a chyfrifoldebau cyfreithiol.

YMUNWCH 脗鈥橬 BWRDD YMDDIRIEDOLWYR

Dysgwch fwy am ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, yr hyn sydd ei angen i fod yn aelod o鈥檙 Bwrdd a sut i wneud cais i ymuno.

LAWRLWYTHO PECYN BWRDD

Saz Willey

Cadeirydd

Mae gan Saz radd mewn economeg a bu’n gweithio fel archwilydd cyn symud i Paris. Ar 么l dychwelyd i Gymru, daeth yn wirfoddolwraig brysur, yn ofalwr a bu’n aelod o Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol ers 2001.

Bu gan Saz swyddi strategol a gweithredol yn y sector dim-er-elw a’r sector cyhoeddus mewn cynghori, iechyd, tai, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol.

Fel Rheolwr CAB, mae Saz yn meithrin capasiti a gallu i gynnal ac ehangu gwasanaethau sicrwydd ansawdd i gleientiaid a bu’n ymgyrchu i wella polisi ac ymarfer. Yn gyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Iechyd Lleol y Fro am chwe mlynedd, bu Saz yn gadeirydd y Pwyllgor Perfformiad a Chynllunio ac yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio. Fel mentor trwyddedig PQASSO, bu Saz yn helpu cyrff trydydd sector i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli a’u llywodraethu’n dda.

Yn gyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Masnachol Group Pobl ers pum mlynedd, mae Saz yn Is-gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg y Gr诺p, yn Ymddiriedolydd Pobl a bu’n flaenorol ar y Bwrdd Gofal a Chymorth.

Yn 2018 cafodd Saz ei phenodi yn Aelod Panel Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a bu鈥檔 Is-gadeirydd ers mis Ionawr 2021. Yn y r么l hon mae鈥檔 arwain at gydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae hefyd yn aelod o Gymdeithas Cadeiryddion, Menywod ar Fyrddau, Cymdeithas Fawcett a WEN Cymru ac mae鈥檔 gwirfoddoli i elusen ddatblygu Tool Action Cymru.

Clare Strowbridge

Rwy鈥檔 gyfreithwraig gyda 29 mlynedd o brofiad (wedi cymhwyso yn 1988) ym meysydd ymgyfreitha masnachol a chleientiaid preifat (ewyllysiau, treth a phrofiannaeth) ac, fel partner ecwiti llawn, wedi rheoli cwmni cyfraith prysur yng nghanol y brifddinas.

Roedd llawer o fy ngwaith yn ymwneud 芒 llunio strategaeth a gweithredu systemau i sicrhau rhagoriaeth mewn rheoli ymarfer (gan ennill achrediad LEXCEL) a chyflwyno gwasanaeth ansawdd uchel i gleientiaid. Bu gennyf nifer o swyddi rheoli, yn cynnwys Partner Rheoli am 22 mlynedd, Rheolwr Cyllid (CFO), partner trin cwynion, Swyddog Cydymffurfiaeth Cyllid a Gweinyddiaeth (COFA) a phartner Adnoddau Dynol yng ngofal staff a hyfforddeion. Roedd gennyf lwyth gwaith llawn o gleientiaid, gan adeiladu鈥檙 adran profiannaeth a chynnal achosion ymgyfreitha masnachol cymhleth gyda th卯m neilltuol.

Ymddeolais o鈥檙 cwmni pan gafodd ei brynu gan y rheolwyr yn 2017 ac nid wyf mwyach yn ymarfer fel cyfreithwraig.

Astudiais y Gyfraith a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn y 1980au a graddio gyda chyd-anrhydedd. Graddiais o Goleg y Gyfraith yn Guildford.

Rwy鈥檔 hanner Sbaenes ac yn rhugl mewn Sbaeneg.

B没m yn byw mewn cymuned fywiog mewn pentref ym Mro Morgannwg am y 25 mlynedd ddiwethaf.

Roedd fy ng诺r a finnau yn brysur iawn yn ein cymuned leol pan oedd ein plant yn tyfu lan, gan redeg pwyllgor Neuadd y Pentref am 5 mlynedd a datblygu ei seilwaith a hybu ei gysylltiadau agos gyda鈥檙 gymuned.

Pan oeddwn yn gweithio fel cyfreithwraig, roeddwn yn arwain t卯m o ysgrifenwyr ewyllysiau bob mis Tachwedd ar gyfer WillAid, gan godi degau o filoedd o bunnau i nifer o elusennau dros tua 12 mlynedd.

Ers ymddeol o鈥檙 cwmni yn 2017 rwyf wedi mwynhau swyddi fel ymddiriedolydd ac aelod o fwrdd dwy elusen, Gofal a Thrwsio a Barod, elusen sy鈥檔 delio gyda caethiwed. Rwyf hefyd yn ymddiriedolydd i nifer o ymddiriedolaethau ac yn ysgutor proffesiynol yng nghyswllt stadau cleientiaid a fu farw.

Gwynne Jones

Cynrychiolydd Cadeiryddion Asiantaethau

Bu Gwynne yn gweithio ym maes tai cymdeithasol am 33 mlynedd tan fis Gorffennaf 2020. Mae鈥檔 falch i fod yn Gadeirydd Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych a bu ganddo gysylltiadau gyda鈥檙 mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru ers 1996. Mae cael cyfle i fod yn Gynrychiolydd Asiantaeth ar Fwrdd Care & Repair Cymru yn gyfle rhagorol i sicrhau y caiff dull gweithredu strategol sefydliad cenedlaethol a darpariaeth gwasanaethau ar y rheng flaen eu deall a鈥檜 datblygu gyda鈥檌 gilydd. Mae鈥檔 gryf o鈥檙 farn fod dull gweithredu sy鈥檔 canolbwyntio ar yr unigolyn i alluogi pobl h欧n a phobl gydag anableddau i aros yn eu cartrefi eu hunain yn bwysig i鈥檞 llesiant.

Mae hefyd yn ymddiriedolydd elusen elusendai yn Rhuthun.

Ar 么l gweithio i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru a Lloegr, ei swydd ddiwethaf oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy lle鈥檙 oedd ganddo gyfrifoldeb strategol am wasanaethau tenantiaid ac eiddo. Mae鈥檔 Gymrawd o鈥檙 Sefydliad Tai Siartredig.

Neil Bradshaw

Mae gan Neil 40 mlynedd o brofiad yn y sector preifat a hefyd y sector cyhoeddus. Fel syrf毛wr maint siartredig dechreuodd ei yrfa yn y diwydiant adeiladu gan roi cyngor ariannol a chontractiol ar brosiectau mewn amrywiaeth o sectorau. Ar 么l symud i GIG Cymru mae ganddo 30 mlynedd o brofiad fel uwch reolwr, gyda 12 ohonynt ar lefel Bwrdd. Drwy gydol ei yrfa gyda鈥檙 GIG bu鈥檔 gyfrifol am gynllunio gwasanaeth a chyflenwi prosiectau a rhaglenni ac mae ganddo brofiad helaeth mewn buddsoddiad cymhleth i gefnogi trawsnewid gwasanaeth.

Mae gan Neil achrediad fel Arweinydd T卯m Adolygu ac mae wedi arwain adolygiadau ar weithredu polis茂au a rhaglenni/prosiectau ar gyfer Llywodraeth Cymru, Asiantaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, llywodraeth leol a GIG Cymru.

Andrew Vye

Is-gadeirydd

Mae Andrew wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi ar draws y Sector Cyhoeddus a鈥檙 Trydydd Sector yng Nghymru聽 am y 20 mlynedd ddiwethaf. Bu gyda Pobl ers ei sefydlu yn 2016 ac fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau mae鈥檔 arwain y Timau Cartrefi a Chymunedau a Gofal a Chymorth. Mae Andrew yn gyfrifol am waith Pobl yn darparu gwasanaethau landlord i dros 17,000 o bobl a chymunedau yn cynnwys t卯m mewnol Crefftwyr Pobl. Mae Gweithrediadau Pobl hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau gofal a chymorth yn amrywio o gefnogaeth tenantiaid hyd at ofal preswyl.

Fay Satherley

Mae Fay yn weithiwr tai proffesiynol gyda bron 20 myned o brofiad mewn agweddau niferus o bolisi ac ymarfer tai cymdeithasol, yn cynnwys adfywio asedau, casglu incwm a rheoli tenantiaethau. Mae hefyd yn Aelod Siartredig o鈥檙 Sefydliad Tai Siartredig.

Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn tlodi a r么l tai mewn lliniaru effaith tlodi ar fywydau pobl ac mae鈥檔 gobeithio y gall ei phrofiad a鈥檌 hangerdd gefnogi Care & Repair Cymru i gyflawni ei amcanion ar hyn o bryd ac i鈥檙 dyfodol.

Karen Athanatos

Cefais fy ngeni a magu yn ardal Caerdydd. Pan oeddwn yn fy arddegau fi oedd yr unig ofalwr ar gyfer fy nhad-cu a mam-gu oedrannus. Mae gwaith Gofal a Thrwsio yn rhoi cefnogaeth i unigolion a hefyd sicrwydd i鈥檞 teuluoedd a gofalwyr. Rwy鈥檔 angerddol am waith Gofal a Thrwsio ac wrth fy modd i fedru defnyddio profiad byw yn fy r么l fel Ymddiriedolydd.

Mynychais Brifysgol Abertawe gan astudio鈥檙 Gymraeg ac Astudiaethau Busnes ac wedyn TAR mewn Addysg Gynradd. B没m yn athrawes ysgol gynradd am nifer o flynyddoedd mewn gwahanol fannau yn ne Cymru ac yna鈥檔 gweithio i Real Radio a Heart FM ar ymgyrchoedd radio Cymru-gyfan.

Rwyf wedi gweithio fel gwas sifil ers 2018 fel gweithiwr achos ar gyfer adran an-weinidogol. Mae gennyf brofiad diweddar fel aelod bwrdd ac yn edrych ymlaen at ddod yn rhan o d卯m Gofal a Thrwsio.

Sally Davies

Rwy鈥檔 aelod o fwrdd Gofal a Thrwsio Casnewydd ac yn Ymddiriedolydd annibynnol i Care & Repair Cymru.

Roeddwn yn arfer gweithio i adrannau tai Sir Fynwy a Chasnewydd, gan ddarparu cartrefi newydd gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig oedd yn bartneriaid i ni, ac yn arbennig wrth ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer pobl dros 55 oed.

Credaf ei bod yn hanfodol fod pobl yn teimlo’n hyderus a diogel yn eu cartrefi eu hunain ar gyfer eu hiechyd a llesiant ac rwy’n falch o waith Gofal a Thrwsio i gyflawni hyn.

Rhodri Owen

Ymunodd Rhodri Owen 芒 Care & Repair Cymru fel Ymddiriedolydd ym mis Hydref 2021.

Mae Rhodri yn Bartner yn Redkite Solicitors ac mae鈥檔 arbenigo mewn gwaith ewyllysiau a phrofiant. Mae鈥檔 delio gyda gweinyddiaeth ymddiriedolaethau ac yst芒d ac mae ganddo hawliau uwch i ymddangos mewn llysoedd uwch. Mae鈥檔 Aelod llawn o Gymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Yst芒d.

Mae gan Rhodri brofiad yn y sector preifat mewn rheoli busnes a datblygu. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn polisi tai ac yn arbennig ddatblygu strategaethau i gynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y gallant.

Elizabeth Warwick

Rwyf yn arbenigydd mewn cyfathrebu a b没m yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus am flynyddoedd lawer, gan sefydlu a chyd-reoli ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd am tua 15 mlynedd, tan 2015.

Rwy鈥檔 awr yn cydbwyso gofalu am fy nhad 96 oed sy鈥檔 byw gyda ni yng nghartref y teulu gyda gweithio鈥檔 llawn-amser yn y sector ynni, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu a dirnadaeth a chefnogi defnyddwyr mewn sefyllfaoedd bregus.

Rwy鈥檔 hynod falch i fod yn Ymddiriedolydd Care & Repair Cymru a chefnogi鈥檙 gwasanaethau sy鈥檔 helpu pobl h欧n yng Nghymru i aros yn iach, diogel a hapus yn eu cartrefi eu hunain.

John Hunt

Mae鈥檙 Athro John Hunt yn oroeswr str么c ac yn anabl, yn fardd a gwyddonydd newid hinsawdd sy鈥檔 ymgyrchu dros gydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant, tegwch a鈥檙 amgylchedd. Mae John yn gyfarwyddwr Diverse Cymru, yn Llywodraethwr Coleg y Cymoedd ac yn Swyddog Anabledd ar gyfer LGBT+Labour [Cymru]. Bu ganddo benodiadau gweinidogol fel aelod o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiiniog, Llais Gwent ac fel ymddiriedolydd Amgueddfa Cymru.

Sylwedyddion

Jim Mckirdle

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Sharon Mainwaring

Sylwedydd Mygedol)

Swyddi Gwag

Panel Technegol AWCHOP

Coleg Brenhinol Therapyddion Galwedigaethol

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.