Mae ein cynllun Aelodau Masnachol yn cynnig cyfleoedd gwych i chi roi hysbysrwydd i’ch cynnyrch ac i’ch neges gael ei chlywed gan y mudiad Gofal a Thrwsio a thu hwnt.

Bob blwyddyn, mae staff Gofal a Thrwsio yn cysylltu gyda dros 40,000 o bobl hŷn ym mhob rhan o Gymru. Os oes gennych gynnyrch neu neges o fudd i bobl hŷn yng Nghymru, rydym yn y sefyllfa berffaith i’ch helpu i’w rhannu.

Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd rhwydweithio cenedlaethol drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ein Gweithwyr Achos, Swyddogion Technegol a thimau Arweinyddiaeth. Gallai hyrwyddo eich busnes a’ch cynnyrch mewn cyfarfod rhwydweithio eich helpu i adeiladu perthynas gref gyda chwsmeriaid newydd a phresennol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Aelod Masnachol?

Lawrlwythwch ein taflen i ganfod sut y gall dod yn Aelod Masnachol o Care & Repair Cymru fod o fudd i’ch sefydliad.

Darllenwch nawr

Ein Aelodau Masnachol

Educ8

Mae Grŵp Hyfforddiant Educ8, a sefydlwyd yn 2004, wedi dod i’r amlwg fel darparydd hyfforddiant blaenllaw Cymru a’r darparydd sy’n tyfu gyflymaf ar gyfer prentisiaethau a chymwysterau dysgu seiliedig ar waith mewn ystod o sectorau. O arweinyddiaeth a rheolaeth a gweinyddiaeth busnes i iechyd a gofal cymdeithasol, marchnata a chyngor ac arweiniad. Rydym yn parhau i ddatblygu perthynas ystyrlon a hir gyda phobll a sefydliadau o’r un anian. Cysylltwch â ni i ganfod sut i hybu eich gyrfa a’ch busnes.

Solon Security

Caiff Solon Security ei gydnabod fel un o brif gyflenwyr cynnyrch diogelwch cymunedol Prydain. Ar ôl gweithio gydag ystod o gynghorau, cymdeithasau tai a darparwyr gofal yn ein hanes 25-mlynedd, defnyddiwn y cysylltiad hwn gyda chwsmeriaid i ddarparu datrysiadau sy’n arwain y farchnad. Mae ein hystod o ofal a alluogir gan dechnoleg yn helpu i wneud gwahaniaeth i filoedd o breswylwyr ar draws Prydain. Rydym yn falch i gynnig y dewis ehangaf o seffau allwedd ym Mhrydain, gyda datrysiadau i weddu pob angen penodol, amgylchedd a chyllideb.

Altro

Pan ddaw i dai cymdeithasol ac addasu cartrefi, mae’r ffordd y mae cartref yn edrych yr un mor bwysig â sut mae’n gweithredu. Mae angen i ardaloedd byw fod â steil, mae angen i ardaloedd cymunol fod yn groesawgar, sensitif i sŵn a rhwydd eu glanhau ac mae angen i geginau ac ystafelloedd ymolchi gydymffurfio gyda’r safonau uchaf o ran diogelwch a hylendid. Bydd dewis Altro o loriau a waliau cyfoes gyda lliwiau traddodiadol, gwahanol weadau a gorffenion – yn cynnwys pren – yn rhoi popeth rydych ei angen i gwblhau adeilad newydd neu wella llety a chyfleusterau presennol.

AKW

Mae AKW yn arwain y farchnad ym Mhrydain mewn datrysiadau cawod, byw bob dydd a cheginau ar gyfer pobl gyda llai o allu symud. Mae dewis, prisiau cystadleuol a gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid yn gwneud AKW y dewis cyntaf i gleientiaid ar draws Prydain a thramor. Gweithiwn yn achos gyda therapyddion galwedigaethol a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd pan gynlluniwn ein cynnyrch. Rydym yn angerddol am alluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain a chadw eu hannibyniaeth. Ynghyd â gwasanaethau gyda’r gorau yn y byd i gwsmeriaid, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio/syrfëwr cynhwysfawr a gwasanaeth ôl-ofal.

The Key Safe Company

Rydym wedi darparu cynnyrch a gwasanaethau o’r safon uchaf oll ers 1995. Caiff ein hangerdd ei ddangos dan ein hardystiad ISO9001 ac aelodaeth o gynllun ‘Secured by Design’ Heddlu y Deyrnas Unedig. Gan weithio mewn partneriaeth gyda phrif arbenigwyr y diwydiant, tebyg i TSA, sefydliadau dim er elw ac awdurdodau lleol, fe wnaethom ddatblygu’r Supra C500 KeySafe™ - y seff allweddi wreiddiol a ffafriwyd gan heddlu’r DU a gafodd brofion ymosod annibynnol a thrwyadl i sicrhau ei fod “mor ddiogel â’ch drws blaen”. Rydym wedi darparu dros 12.5 miliwn o seffau allwedd mewn 25 mlynedd o fasnachu.

Surestop

Gan ddiogelu eiddo rhag risg difrod dŵr, mae Surestop yn stopfalf unigryw. Mae’n eich galluogi i droi eich dŵr yn ôl ac ymlaen drwy ddim ond defnyddio switsh. Heb fatri na thrydan, mae’n rhwydd ac yn gyflym gosod Surestop gyda switsh o bell a all fod hyd at 6 metr i ffwrdd a’i osod ar wyneb gwastad. Mae’n berffaith pan ganfyddir fod dŵr yn gollwng neu os na fedrwch ganfod neu droi’r stopfalf traddodiadol. Nid yw calchgen yn effeithio arno chwaith.

Closomat

Prif gyflenwr Prydain ar gyfer toiledau golchi a sychu. Mae Closomat yn credu fod pawb yn haeddu byw eu bywyd gorau, pa bynnag heriau sy’n eu hwynebu gyda’u hanghenion toiled personol. Cynlluniwyd ein cynnyrch i ddiwallu anghenion unigolion yn awr a hefyd yn y dyfodol. Maent yn hyblyg a gellir eu haddasu’n bwrpasol.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.