Mae tri phrif faen cymhwyster:

Location

Mae’n rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru.

Dim ond yng Nghymru mae ein gwasanaethau ar gael; mae gennym asiantaeth yn gweithredu ym mhob un o’r 22 sir.

Age

Fel arfer mae’n rhaid i chi fod dros 60 oed.

Fodd bynnag, mae’n dibynnu ar y gwaith rydych ei angen ac ymhle yng Nghymru yr ydych yn byw. Mae rhai o’n prosiectau ar gael i rai dros 50 oed.

Eiddo

Mae’n rhaid i chi fod yn berchennog eich cartref eich hunan neu’n rhentu yn breifat.

Fodd bynnag, mae eithriadau, yn benodol ar gyfer rhai sy’n byw gydag anableddau neu sydd angen help i ddychwelyd adre o’r ysbyty. Rydym yn gweithio gyda rhai mewn tai cymdeithasol ar rent mewn nifer fach o ardaloedd.

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol i fod yn siŵr eich bod yn gymwys am unrhyw un o’n gwasanaethau.

Learn more
Cartref oer?
Stepiau peryglus?
Gwteri’n gollwng?
Dyled tanwydd?
Goleuadau wedi torri?

Gallwn eich helpu.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol heddiw.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.