Mae Care & Repair Cymru yn ymroddedig i fod yno ar gyfer pobl hŷn sydd fwyaf ein hangen.

Drwy adael rhodd yn eich ewyllys, gallwch ein helpu i ddal ati i wella cartrefi a newid bywydau am flynyddoedd i ddod.

Bydd eich haelioni yn golygu y bydd Gofal a Thrwsio ar gael i bobl hŷn ledled Cymru i droi atom i gael a help a chymorth pan maent fwyaf ein hangen.

Cwestiynau Cyffredin

A oes angen i mi ysgrifennu ewyllys?

Mae eich ewyllys yn ddogfen bwysig sy’n amlinellu’r hyn ddylai ddigwydd i’ch arian ac eiddo ar ôl i chi farw. Os nad oes gennych ewyllys pan fyddwch yn marw, bydd y gyfraith yn gwneud y penderfyniad hwn ar eich rhan, na fydd o reidrwydd yr un peth â’ch dymuniadau.

Sut mae mynd ati i ysgrifennu ewyllys?

Awgrymwn eich bod yn cysylltu â chyfreithiwr a all eich helpu i’w hysgrifennu a’i llofnodi. Pan fyddwch yn ysgrifennu ewyllys, byddem yn eich annog i feddwl yn galed amdano a rhoi eich teulu a’ch anwyliaid yn gyntaf.

Beth os wyf wedi ysgrifennu fy ewyllys yn barod?

Os oes gennych ewyllys yn barod ac yr hoffech gynnwys Gofal a Thrwsio ynddi, yna mae’n rhwydd ei diwygio. Y cyfan rydych ei angen yw Codisil (ffurflen swyddogol i ddiwygio ewyllys) sydd ar gael gan eich cyfreithiwr.

Beth os wyf eisoes wedi rhoi rhodd yn fy ewyllys?

Gofynnwn i chi adael i ni wybod os gwelwch yn dda fel y gallwn ddiolch i chi yn ffurfiol os ydych eisoes wedi cynnwys rhodd i Gofal a Thrwsio yn eich ewyllys.

A ddylai’r rhodd yn fy ewyllys fynd i Care & Repair Cymru neu i fy Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol?

Gallwch ddewis gadael rhodd i naill ai Care & Repair Cymru neu’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol neu i’r ddau. Chi sydd i benderfynu.

Gadael Rhodd yn eich Ewyllys

Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth ar sut i adael rhodd yn eich ewyllys i Care & Repair Cymru.

Cysylltu â Ni

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.