Gwnawn hyn drwy ymweld â chartrefi a rhoi cyngor a chymorth gyda technegau arbed ynni cartref a gwelliannau tai.
Mae gan Gofal a Thrwsio dîm o Swyddogion Ynni Cartref 70+ Cymru a all ymweld â chi a gweithio gyda chi i ganfod ffyrdd i gadw eich cartref yn gynnes a diogel.
Dyma rai enghreifftiau o’r ffyrdd y gall ein Swyddogion Ynni Cartref eich helpu:
Mae dros 75% o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf yn digwydd i bobl 75 oed a throsodd, caiff 30% o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yng Nghymru eu priodoli’n uniongyrchol i gartref oer. Mae tymheredd oer yn gwaethygu dementia, cyflyrau anadlu a mathau eraill o salwch.
Dyna pam fod gwaith 70+ Cymru mor werthfawr. Os ydych dros 65 oed ac yn credu fod eich cartref yn oer a’r gwresogi’n aneffeithiol, gallwn helpu.