Llogi Ystafell
Edrych am leoliad i gynnal cyfarfodydd neu hyfforddiant yng Nghaerdydd?

Mewn lleoliad ar gyrion canol y ddinas, o fewn mynediad rhwydd i'r M4, gall Care & Repair Cymru gynnig ystafelloedd i'w llogi p'un ai ar gyfer diwrnod hyfforddiant, cyfarfod, seminar neu gyflwyniad.
Mae mynediad cadair olwyn i bob ystafell ac maent ar gael rhwng 9.00am – 5pm dydd Llun - dydd Gwener.
Taflen / Rhestr o brisiau
Ffurflen Archeb
Ein polisi canslo
Daw'r taliadau dilynol i rym os yw'n rhaid i chi ganslo archeb a gadarnhawyd:
- Un mis neu ddau cyn y digwyddiad - dim cost
- Llai nag un mis ond mwy na dwy wythnos cyn y digwyddiad – 50%.
- Llai na dwy wythnos ond mwy nag un wythnos cyn y digwyddiad – 75% o gyfanswm y ffi.
- Un wythnos neu lai cyn y digwyddiad – 100% o gyfanswm y ffi.
Dylid anfon hysbysiad canslo mewn ysgrifen at [email protected] a daw i rym ar y dyddiad y caiff ei dderbyn.