Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn fudiad elusennol dim-er-elw sy’n cynorthwyo pobl hŷn ac anabl i aros yn gysurus, diogel a saff yn eu cartrefi eu hunain.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Amdanom ni

    Sefydlwyd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ym mis Gorffennaf 2015 pan unwyd asiantaethau Gofal a Thrwsio Ceredigion a Sir Benfro. Cawn ein rheoli gan Fwrdd Rheoli gwirfoddol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Benfro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

    Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn cynnig gwasanaeth pwrpasol cyflawn i ddiwallu anghenion pobl dros 60 oed neu sydd ag anabledd. Mae ein crefftwyr medrus yn helpu ein cwsmeriaid gydag amrywiaeth o fân weithiau addasu ac atgyweirio. Mae ein gweithwyr achos ymroddedig yn ymweld â chwsmeriaid yn eu cartrefi i drafod diogelwch cartrefi, hawl i fudd-daliadau neu gyngor ar wasanaethau lleol a rhoi cyngor a chymorth.

    Mae’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau yn rhad ac am ddim neu ar gael am ffi isel ac anelwn ganfod y datrysiad gorau i helpu cwsmeriaid gyda diogelwch ac annibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain.

    Ein Partneriaid

    Cyngor Sir Penfro

    Cyngor Sir Ceredigion

    Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Bendro

    Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro

    Bwrdd Iechyd Hywel Dda

    Cymdeithas Mudiadau Gwiroddol Ceredigion

    Cyngor ar Bopeth

    Age Cymru Dyfed

    Grŵp ateb

    Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.