Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Elusen yw Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro gyda’r genhadaeth o gefnogi pobl hŷn i atgyweirio, addasu a chynnal eu cartrefi.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Amdanom ni

    Ein gweledigaeth yw i bob person hŷn fedru byw mewn cartref diogel, cynnes a chysurus sy’n gweddu i’w bywydau ac yn gwneud y mwyaf o’u hannibyniaeth.

    Mae ein grŵp cleientiaid craidd dros 60 oed ac yn byw yn eu cartrefi eu hunain neu’n rhentu’n breifat.

    Mae gennym dîm profiadol sy’n cynnwys Swyddogion Gwybodaeth a Chyngor, Gweithwyr Achos a Swyddogion Technegol sy’n medru cynnig cyngor a chymorth dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy ymweld â pherson yn eu cartref.

    Achrediadau

    Mae gennym achrediad AQS

    Y Safon Ansawdd Cyngor (AQS) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion lles cymdeithasol.

    Rydym yn gontractwr diogel

    Rydym wedi ennill achrediad SafeContractor Alcumulus am sicrhau rhagoriaeth iechyd a diogelwch.

    Ein Partneriaid

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

    Cyngor Caerdydd

    Cyngor Bro Morgannwg

    Cyngor ar Bopeth

    Age Cymru

    Age Connects Caerdydd a’r Fro

    ACE Caerdydd

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.