Ein Partneriaid
Rydym yn cydweithio gyda llawer o sefydliadau y mae eu cefnogaeth, profiad ac arbenigedd yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i fywydau miloedd o bobl hŷn ledled Cymru bob blwyddyn.
Gweithiwn gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chwmnïau preifat i helpu a chefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol mewn cartrefi cynnes, diogel a hygyrch.
Ni fyddai ein gwaith yn bosibl heb gefnogaeth a chyllid ein partneriaid.
Gyda'n gilydd rydym yn gwella cartrefi ac yn newid bywydau miloedd o bobl hŷn ledled Cymru bob blwyddyn.