Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio yn bodoli oherwydd y byddai bod â’r ymwybyddiaeth gywir yn atal y rhan fwyaf o gwympiadau.
Nid yw syrthio yn anochel, ond mae’n rhaid i bawb ohonom gymryd camau syml i sicrhau nad ydym mewn risg. Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio ynglŷn â helpu pobl i weld y risgiau fel y gallant weithredu. Felly gofynnir i chi rannu yr adnoddau isod ynghyd â’n cyngor da am ostwng y risgiau gyda’ch cyfeillion a’ch teulu.
Os siaradwn gyda’n gilydd am syrthio, gallwn ostwng y risg.