Rwy鈥檔 gyfreithwraig gyda 29 mlynedd o brofiad (wedi cymhwyso yn 1988) ym meysydd ymgyfreitha masnachol a chleientiaid preifat (ewyllysiau, treth a phrofiannaeth) ac, fel partner ecwiti llawn, wedi rheoli cwmni cyfraith prysur yng nghanol y brifddinas.
Roedd llawer o fy ngwaith yn ymwneud 芒 llunio strategaeth a gweithredu systemau i sicrhau rhagoriaeth mewn rheoli ymarfer (gan ennill achrediad LEXCEL) a chyflwyno gwasanaeth ansawdd uchel i gleientiaid. Bu gennyf nifer o swyddi rheoli, yn cynnwys Partner Rheoli am 22 mlynedd, Rheolwr Cyllid (CFO), partner trin cwynion, Swyddog Cydymffurfiaeth Cyllid a Gweinyddiaeth (COFA) a phartner Adnoddau Dynol yng ngofal staff a hyfforddeion. Roedd gennyf lwyth gwaith llawn o gleientiaid, gan adeiladu鈥檙 adran profiannaeth a chynnal achosion ymgyfreitha masnachol cymhleth gyda th卯m neilltuol.
Ymddeolais o鈥檙 cwmni pan gafodd ei brynu gan y rheolwyr yn 2017 ac nid wyf mwyach yn ymarfer fel cyfreithwraig.
Astudiais y Gyfraith a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn y 1980au a graddio gyda chyd-anrhydedd. Graddiais o Goleg y Gyfraith yn Guildford.
Rwy鈥檔 hanner Sbaenes ac yn rhugl mewn Sbaeneg.
B没m yn byw mewn cymuned fywiog mewn pentref ym Mro Morgannwg am y 25 mlynedd ddiwethaf.
Roedd fy ng诺r a finnau yn brysur iawn yn ein cymuned leol pan oedd ein plant yn tyfu lan, gan redeg pwyllgor Neuadd y Pentref am 5 mlynedd a datblygu ei seilwaith a hybu ei gysylltiadau agos gyda鈥檙 gymuned.
Pan oeddwn yn gweithio fel cyfreithwraig, roeddwn yn arwain t卯m o ysgrifenwyr ewyllysiau bob mis Tachwedd ar gyfer WillAid, gan godi degau o filoedd o bunnau i nifer o elusennau dros tua 12 mlynedd.
Ers ymddeol o鈥檙 cwmni yn 2017 rwyf wedi mwynhau swyddi fel ymddiriedolydd ac aelod o fwrdd dwy elusen, Gofal a Thrwsio a Barod, elusen sy鈥檔 delio gyda caethiwed. Rwyf hefyd yn ymddiriedolydd i nifer o ymddiriedolaethau ac yn ysgutor proffesiynol yng nghyswllt stadau cleientiaid a fu farw.