Mae Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd y garreg filltir hynod o dderbyn ei 10,000fed atgyfeiriad, wrth iddo helpu rhyddhau cleifion yn gyflym ac yn ddiogel o Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae gwasanaeth Ysbyty i Gartref yr elusen yn cynnal ymyriadau diogelwch cartref, tebyg i fân addasiadau, atgyweiriadau a darparu gwresogi ychwanegol, i helpu hwyluso rhyddhau pobl hŷn yn brydlon ac yn ddiogel o’r ysbyty.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda staff ysbyty mae’r gwasanaeth yn derbyn dros 1,500 atgyfeiriad y flwyddyn ac yn helpu i ostwng amser aros mewn ysbytai drwy arbed tua 8,000 o ddyddiau gwely bob blwyddyn.

I ddathlu ei lwyddiant, cynhaliodd y gwasanaeth Ysbyty i Gartref ddigwyddiad yn Ysbyty Tywysoges Cymru a fynychwyd gan Huw Irranca-Davies AS, Sarah Murphy AS, a Sarah James Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Dywedodd Rena Sweeney, Cyfarwyddwr Asiantaeth Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym wrth ein bodd i gyrraedd y garreg filltir bwysig yma, ond mae’n rhaid i mi dalu teyrnged i holl waith caled ac ymroddiad staff y gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth wedi cyflawni cymaint ers ei gyflwyno yn 2014 a chafodd y model a sefydlwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei atgynhyrchu gan Care & Repair Cymru mewn ysbytai ar draws Cymru”.

Meddai Meinir Woodgates, Rheolwr Gwasanaeth Ysbyty i Gartref: “Mae cyflymder a nifer y gwelliannau cartref a gwblhawyd wedi golygu fod cleifion a atgyfeiriwyd i’r gwasanaeth yn aros chwe diwrnod yn llai yn yr ysbyty ar gyfartaledd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn helpu i ostwng nifer y cleifion sy’n gorfod dychwelyd i ysbyty.”

Ychwanegodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru: “Mae Ysbyty i Gartref yn datrys problem. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda staff ysbyty, cleifion a’u teuluoedd i ddynodi a datrys problemau tai a fyddai fel arall yn atal pobl rhag cael eu rhyddhau o ysbyty.

“Mae’n glod i ymroddiad staff Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr fod y gwasanaeth Ysbyty i Gartref wedi tyfu’n gyflym o hadau bach i wasanaeth sylweddol sydd ar gael ledled Cymru. Ni fyddai’r twf hwn wedi bod yn bosibl heb reddf cydweithio staff rheng flaen y GIG, yn ogystal ag uwch gydweithwyr ar draws gwasanaethau iechyd, a sylweddolodd botensial y cynnig.”

Yn genedlaethol, caiff y gwasanaeth bellach ei alw yn Ysbyty i Gartref Iachach ac mae’n gweithredu allan o 17 ysbyty. I ganfod mwy am Ysbyty i Gartref Iachach a’r hyn a gyflawnodd, ewch i: www.careandrepair.org.uk/hospital

Os ydych dros 60 oed ac angen gwaith addasu yn eich cartref, gall Gofal a Thrwsio sir Pen-y-bont ar Ogwr eich helpou. Ffoniwch ni ar 01656 646755.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.