Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Mae Gofal a Thrwsio Cwm Taf yn darparu gwasanaeth cymorth a chyngor am ddim i bobl hŷn a/neu anabl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, p’un ai ydynt yn berchennog eu cartrefi neu’n rhentu’n breifat, i’w galluogi i aros yn fwy annibynnol, twym, saff a diogel yn eu cartrefi eu hunain.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Cwm Taf

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Amdanom ni

    Caiff ein gwasanaeth ei arwain gan y cleient ac mae’n seiliedig ar ymweliad i gartref y person hŷn. Bydd yr ymweliad yn arwain at becyn personol i wella cartref. Y nod yw cefnogi dewis y person hŷn i barhau i fyw yn eu cartref eu hunain a’u cymuned eu hunain cyhyd ag y gallant ac y dewisant wneud hynny.

    Ffurfiwyd Gofal a Thrwsio Cwm Taf ym mis Ebrill 2016 pan unwyd asiantaethau blaenorol Rhondda Cynnon Taf a Merthyr Tudful. Mae’r Asiantaeth yn rhan o Grŵp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf. Rydym yn sefydliad dim-er-elw a chawn ein hariannu gan Lywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Lleol a’r Bwrdd Iechyd.

    Achrediadau

    Mae gennym achrediad AQS

    Y Safon Ansawdd Cyngor (AQS) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion lles cymdeithasol.

    Rydym yn gontractwr diogel

    Rydym wedi ennill achrediad SafeContractor Alcumulus am sicrhau rhagoriaeth mewn iechyd a diogelwch.

    Ein Partneriaid

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.