Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio yn bodoli oherwydd y byddai bod â’r ymwybyddiaeth gywir yn atal y rhan fwyaf o gwympiadau.

Nid yw syrthio yn anochel, ond mae’n rhaid i bawb ohonom gymryd camau syml i sicrhau nad ydym mewn risg. Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio ynglŷn â helpu pobl i weld y risgiau fel y gallant weithredu. Felly gofynnir i chi rannu yr adnoddau isod ynghyd â’n cyngor da am ostwng y risgiau gyda’ch cyfeillion a’ch teulu.

Os siaradwn gyda’n gilydd am syrthio, gallwn ostwng y risg.

Wyddech chi?

  • Bod pobl hÅ·n yn syrthio ymysg y tri phrif reswm dros alw ambiwlans.
  • Unwaith eich bod wedi syrthio unwaith, rydych 50% yn fwy tebygol o syrthio eto, gyda risg cynyddol o anaf.
  • Gall ‘gorwedd hir’ o 12 awr neu fwy effeithio’n ddifrifol ar adferiad person ar ôl iddynt syrthio

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud, bob blwyddyn hyd at 2026, y bydd:

  • 132,000 o bobl hÅ·n yn syrthio fwy nag unwaith yn eu cartref eu hunain
  • 8,100 yn dioddef anaf difrifol a gorfod mynd i ysbyty
  • 3,000 angen clun newydd
  • 1,500 yn colli eu hannibyniaeth yn y 12 mis yn dilyn syrthio
  • yn drist, y bydd 700 yn marw o fewn 12 fis o syrthio

Os ydym yn cael sgwrs am syrthio, gallwn ostwng y siawns o syrthio.

OSGOI BAGLU A SYRTHIO

  • CADW'N HEINI - Wrth i ni heneiddio, gall ein cryfder a’n cydbwysedd ddirywio. Gall gwahanol fathau o ymarfer corff wella cryfder eich cyhyrau a’ch helpu i osgoi cwympo.

  • CADW TREFN AR EICH MEDDYGINIAETHAU - Gall rhai meddyginiaethau effeithio ar eich cydbwysedd, neu wneud i chi deimlo’n wan neu’n benysgafn.

  • GOFALWCH AM EICH LLYGAID A'CH CLUSTIAU - Mae ein golwg yn dirywio wrth i ni heneiddio, a gall hyn achosi i chi gwympo

  • EDRYCHWCH O GWMPAS EICH CARTREF - Cadwch lygad am bethau a allai achosi i chi faglu o gwmpas eich cartref.

  • CHI'N MYND I'R TOILED - pan rydych chi’n brysio, gynyddu’r perygl o gwympo.

  • GOFALWCH AM EICH ESGYRN - Os oes gennych esgyrn gwan, maen nhw’n fwy tebygol o dorri os byddwch chi’n cwympo.

  • BWYTA'N IACH - Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn bwyta’n iach.

  • GWIRIWCH EICH CYMHORTHION CERDDED - Os oes gennych chi gymhorthion cerdded fel ffon gerdded neu fframiau sy’n mynd yn hen neu sydd wedi torri, gallech chi gwympo wrth geisio eu defnyddio.

  • YFWCH DDIGONEDD O HYLIF - Os nad ydych chi’n yfed digon o hylif, mae’n debygol y byddwch chi’n dechrau teimlo’n benysgafn, a byddwch chi mewn perygl o gwympo.

STORI CHRISTINE

Ar ôl cael codwm ddifrifol pan oedd allan yn siopa, nid oedd Christine yn teimlo’n ddiogel yn mynd mewn ac allan o’i chartref. Gan ddibynnu ar gydio ar waliau a fframiau drysau, roedd yn ofni syrthio eto.

Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi, roeddwn yn disgwyl syrthio drwy’r amser. Mae ymyriadau Gofal a Thrwsio wedi rhoi ymdeimlad o’r newydd o ddiogelwch, annibyniaeth a thawelwch meddwl i Christine a’i gŵr yn eu cartref eu hun.

DARLLENWCH EI HANES

Sylwch ar y Perygl

Dewch o hyd i 13 peth all achosi i chi gwympo.

Sylwch ar y Perygl

Gweithio gyda’n gilydd i atal syrthio

Age Cymru

Ffoniwch Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 y codir cyfradd leol amdano (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, dydd Llun i ddydd Gwener). Anfonwch e-bost at advice@agecymru.org.uk

Age Connects

Mae Age Connects yn darparu gwasanaethau mewn lleoliad cymunedol ac yng nghartrefi cleientiaid, gan chwarae rhan hanfodol wrth leihau’r nifer sy’n syrthio.

Gofal a Thrwsio

Rydym yn darparu gwaith trwsio ac addasiadau yn y cartref i’ch cadw yn ddiogel ac i osgoi baglu a syrthio.

Tasglu Syrthio Cenedlaethol

Mae’r Tasglu Syrthio yn cynnwys aelodau o’r GIG a’r trydydd sector sydd yn gweithio gyda’i gilydd i atal syrthio yng Nghymru.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.