Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae "Care & Repair Cymru" yn defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i "Care & Repair Cymru" pan ddefnyddiwch y wefan hon.
Mae gan "Care & Repair Cymru" ymrwymiad i sicrhau y caiff eich preifatrwydd ei ddiogelu. Os gofynnwn i chi roi gwybodaeth neilltuol fydd yn ei gwneud yn bosibl gwybod pwy ydych wrth ddefnyddio'r wefan yma, yna gallwn eich sicrhau mai dim ond yn unol â'r datganiad preifatrwydd yma y caiff ei defnyddio.
Gall "Care & Repair Cymru" newid y polisi o bryd i'w gilydd drwy ddiweddaru'r dudalen yma. Dylech wirio'r dudalen o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae'r polisi hwn yn weithredol o 1/4/2017.
Yr hyn a gasglwn
Gallwn gasglu'r wybodaeth ddilynol:
Yr hyn a wnawn gyda'r wybodaeth a gasglwn
Rydym angen yr wybodaeth hon er mwyn deall eich anghenion a darparu gwasanaeth gwell i chi, ac yn neilltuol am y rhesymau dilynol:
Diogelwch
Mae gennym ymrwymiad i sicrhau fod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod mae gennym weithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli yn eu lle i ddiogelu a sicrhau'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
Sut y defnyddiwn gwcis
Mae cwci yn ffeil fach sy'n gofyn am ganiatâd i gael ei roi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith y cytunwch, caiff y ffeil ei hychwanegu ac mae'r cwci yn helpu i ddadansoddi traffig gwefan neu'n gadael i chi wybod pan fyddwch yn ymweld â safle neilltuol. Mae cwcis yn caniatáu defnyddio gwefan i ymateb i chi fel unigolyn. Gellir teilwra defnydd y we i'ch anghenion, yr hyn a hoffwch ac nad ydych yn ei hoffi a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.
Defnyddiwn gwcis cofnod traffig i ddynodi pa dudalennau sy'n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig tudalen gwefan a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion cwsmeriaid. Dim ond ar gyfer dibenion dadansoddiad ystadegol y defnyddiwn yr wybodaeth yma ac yna caiff y data ei dynnu o'r system.
Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i roi gwell gwefan i chi, drwy ein galluogi i fonitro'r tudalennau a gewch yn ddefnyddiol a pha rai nad ydynt yn ddefnyddiol i chi. Nid yw cwci mewn unrhyw ffordd yn rhoi mynediad i ni i'ch cyfrifiadur neu unrhyw wybodaeth amdanoch, heblaw'r data y dewiswch ei rannu gyda ni.
Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond gallwch fel arfer addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os yw'n well gennych. Gall hyn eich atal rhag manteisio'n llawn ar y wefan.
Dolenni i wefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i'ch galluogi i ymweld â gwefannau eraill o ddiddordeb yn rhwydd. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch pan ydych yn ymweld â safleoedd o'r fath ac nid yw'r datganiad preifatrwydd yma yn rheoli safleoedd o'r fath. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy'n weithredol i'r wefan dan sylw.
Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallwch ddewis cyfyngu casglu neu ddefnydd eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd dilynol:
Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu neu lesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti os nad ydych wedi rhoi caniatâd i ni neu ei bod yn ofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny. Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddo i chi am drydydd parti y credwn allai fod o ddiddordeb i chi os dywedwch wrthym y dymunwch i hyn ddigwydd.
Gallwch ofyn am fanylion personol a gadwn amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fechan yn daladwy. Os hoffech gael copi o'r wybodaeth a gedwir arnoch, ysgrifennwch os gwelwch yn dda at Care & Repair Cymru, Swyddfa Genedlaethol, 2 Ocean Way, Caerdydd CF24 5TG.
Os credwch fod unrhyw wybodaeth a gadwn amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu anfon e-bost atom cyn gynted ag sy'n bosibl yn y cyfeiriad uchod os gwelwch yn dda. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth y canfyddir ei bod yn anghywir yn brydlon.