Rhaglen Addasiadau Brys
Rydym yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth addasiadau brys i bobl yn yr ysbyty sy’n disgwyl cael eu rhyddhau, pobl sydd wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn ddiweddar neu bobl sydd mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty neu i gartref gofal.
Rhaid i geisiadau am y gwasanaeth hwn gael eu gwneud gan weithiwr proffesiynol ym maes iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, e.e. Therapydd Galwedigaethol. Gallwn ddweud wrthych sut mae cael gafael ar y gwasanaeth hwn a gallwn siarad â’r asiantaeth atgyfeirio ar eich rhan.
Dyma enghreifftiau o’r gwahanol fathau o waith a gyflawnir:
- Gosod canllawiau cydio / canllawiau cyffredin
- Ei gwneud yn haws i rywun gyrraedd toiled
- Adleoli socedi/switshys golau
- Darparu canllawiau wrth ymyl grisiau
- Stepiau a hanner stepiau
- Systemau rheoli mynediad
- Technoleg gynorthwyol
- Atgyweirio lloriau pren / tu uchaf unrhyw risiau
- Gwneud lloriau concrid yn lefel
- Gwella goleuadau mewnol/allanol
- Atgyweirio’r system wresogi yn y prif ardaloedd byw
- Gosod stribedi carped yn sownd
- Ailosod fflagiau
- Darparu socedi ychwanegol
- Darparu estyniadau i’r ffôn
I gael mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau a ddarperir gan Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â ni neu ofyn i rywun gysylltu â ni ar eich rhan.
Telephone 01437 766717
Email [email protected]