Amdanom Ni
Mae Gofal a Thrwsio Blaenau Gwent a Chaerffili yn Asiantaeth Annibynnol Gwella Cartrefi. Ei nod yw helpu pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sydd modd. Rydym yn sefydliad dim-er-elw ac yn cynnig cyngor ymarferol rhad ac am ddim am atgyweiriadau neu welliannau tai.
Rydym yn darparu arbenigedd, cyngor a chefnogaeth ymarferol i bobl hŷn sydd angen atgyweiriadau, adnewyddu neu addasu eu cartref. Gwnawn hyn i helpu pobl i aros yn byw yn annibynnol, cysurus a diogel yn eu cartrefi eu hunain. Gallwn weithio gydag unrhyw un dros 50 oed sy'n berchnogion cartref neu denantiaid sector preifat.
- Cawn ein hariannu, monitroi a'n cefnogi gan y dilynol:
- Llywodraeth Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Care & Repair Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent