Gwasanaeth Cymorth Gwaith Achos Craidd
Os ydych chi’n 60 oed a throsodd, gall ein gwasanaeth ymweliadau cartref ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth am ddim i chi, wedi eu teilwrio ar gyfer eich anghenion unigol. Bydd ein gweithiwr achos profiadol yn dod i’ch cartref ac yn gwrando ar eich anghenion.
Gall ein tîm Gwaith Achos profiadol ymweld â chi yn eich cartref i wrando a thrafod unrhyw faterion sydd ar eich meddwl a dod o hyd i ddatrysiadau unigol ar eich cyfer. Gallwn gynnig ar eich cyfer:
- Cymorth - Gall Gweithwyr Achos ddarparu cymorth ac anogaeth bersonol wrth i gleientiaid baratoi a delio gyda’r tarfu a all gael ei achosi gan unrhyw waith addasu/adeiladu.
- Cysylltu ar ran y cleient – Rydym yn gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng y cleient, teulu neu ofalwr o fewn gwahanol sefydliadau a chyrff statudol sy’n darparu cymorth.
- Ceisiadau - Gallwn ymweld â chartref cleient i helpu i lenwi ffurflenni fel ceisiadau am Grant Llywodraeth Leol a cheisiadau Lwfans Gweini.
- Dangos y Ffordd - byddwn yn dangos yn ffordd a chysylltu ar ran cleient gyda sefydliadau addas ar gyfer cymorth wedi ei deilwrio’n arbennig ar gyfer anghenion y cleient; er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Ynni, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Age Cymru a Prosiect Cymorth Unedig Sir Gaerfyrddin.
- Dewisiadau Grantiau/Cyllid - Byddwn yn trafod pa waith trwsio ac addasu sydd ei angen arnoch, beth yw’r datrysiadau posibl, ac yn cynnig cyngor ar ffynonellau ariannol fel Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, hunan-ariannu neu gyllid buddiannol ar gyfer y gwaith y penderfynwyd fod angen ei wneud gallwn helpu gyda llenwi ffurflenni neu waith papur arall.
- Gwres Fforddiadwy - Rydym yn darparu cyngor, cymorth a datrysiadau ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni gan gynnwys dewisiadau cyllid, dyled ynni, newid tariff a darparwyr, Disgownt Cartref Cynnes a Chofrestru Gwasanaeth Blaenoriaeth.
- Gwirio Budd-daliadau - Mae gennym wasanaeth gwirio budd-dal lles y gallwn ei gwblhau ar eich rhan i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y gorau o’r cael incwm sydd ar gael. Byddwn yn eich cyfeirio at y gwahanol fudd-daliadau er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn popeth sy’n ddyledus i chi. .
Dolen gweithio allan budd-daliadau lles
http://www.turn2us.org.uk/benefits_search.aspx
- Iechyd – Byddwn yn cyfeirio cleientiaid ar gyfer asesiadau Therapi Galwedigaethol i benderfynu pa offer ac addasiadau sydd orau ar gyfer eu hanghenion iechyd. Mae gennym hefyd aseswyr hyfforddedig sy’n gallu asesu ar gyfer addasiadau graddfa fach.
I gael mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau a ddarperir gan Gofal a Thrwsio Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin, mae croeso i chi gysylltu â ni neu ofyn i rywun gysylltu â ni ar eich rhan.
Telephone 01792 798599
Email [email protected]