Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Ydych chi angen help i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eich cartref eich hun wrth i chi heneiddio?

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn darparu arbenigedd, cyngor a chymorth i bobl hŷn neu bobl gydag anableddau sydd angen cael atgyweiriadau, adnewyddu neu addasu eu cartrefi.

Cyswllt Gofal a Thrwsio ym Mhowys

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Amdanom ni

    Gwnawn hyn i helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol, cysurus, diogel a saff yn eu cartrefi eu hunain. Gallwn:
    • Roi cyngor arbenigol ar opsiynau i addasu neu atgyweirio eich cartref
    • Rhoi help i ganfod ffynonellau cyllid ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud
    • Rhoi cyngor ar fudd-daliadau lles i wirio eich bod yn derbyn popeth y mae gennych hawl iddo
    • Asesu a rhoi cyngor ar ddiogelwch yn y cartref
    • Eich helpu i ganfod contractwr adeiladu gydag enw da ar gyfer gwaith mwy
    • Darparu gwasanaeth technegol i archwilio’r gwaith ar ôl ei gwblhau
    • Rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd a gwirio eich bod yn hapus gyda’r gwaith a gafodd ei wneud

    Achrediadau

    Mae gennym achrediad AQS

    Yr AQS (Safon Ansawdd Cyngor) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion llesiant cymdeithasol.

    Ein Partneriaid

    Cyngor Sir Powys

    Barcud

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.