Ysbyty i Gartref Iachach
Mae ein gwasanaeth blaengar Ysbyty i Gartref Iachach yn sicrhau y caiff pobl hŷn eu rhyddhau o ysbyty i gartref addas ar gyfer eu hanghenion.
Ers 2019 gweithiodd y gwasanaeth yn uniongyrchol gyda staff ysbyty i ddynodi problemau tai cleifion hŷn yn gyflym ar ôl iddynt gael eu derbyn, gan eu cysylltu gyda’u hasiantaeth Gofal a Thrwsio leol sy’n sicrhau eu bod yn dychwelyd i gartref diogel, cynnes a hygyrch.
Rydym yn ymroddedig i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy sy’n rhoi cymorth ymarferol i bobl hŷn agored i niwed sy’n eu helpu i fyw yn annibynnol, gydag urddas a llesiant drwy well amodau tai.
Yn allweddol i’n gwasanaeth Adre o’r Ysbyty i Gartref Iachach mae:
- Rhyddhau gofal yn ddiogel ac yn gyflymach
- Gwella llif cleifion
- Gostwng cyfraddau aildderbyn