Ymladd tlodi tanwydd - o'r rheng flaen

"Ymwelais ag un cleient yn ddiweddar oedd wedi bod yn byw yn ei chartref am 40 mlynedd. Roedd y gwres canolog wedi torri ac roedd wedi bod yn byw yno heb ddim gwres na dŵr poeth am o leiaf y flwyddyn ddiwethaf. Nid oedd ganddi unrhyw gynilon ac nid oedd yn derbyn y budd-daliadau oedd eu hangen i wneud cais am Nyth. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cysylltu gyda Gofal a Thrwsio i weld os gallem gefnogi'r fenyw. Es yno, mae lleithder ym mhobman yn y tŷ a'r unig fath o wres yw gwresogydd trydan bach a gwresogydd ffan. I gael dŵr poeth, mae'n berwi tegell ac yn ymolchi drosti bob dydd."

Mae Gofal a Thrwsio yn credu y dylai pob person hŷn yng Nghymru fedru byw'n annibynnol mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfleus. Ac, er fod gennym enw rhagorol am wella diogelwch cartrefi pobl hŷn a'u gwneud yn fwy cyfleus, nid yw'r gwaith a wnawn i wella eu cynhesrwydd yn cael cymaint o gydnabyddiaeth ond mae'r un mor hanfodol i achub bywydau.

Mae pobl hŷn mewn mwy o risg o dlodi tanwydd nag unrhyw grŵp oedran arall yng Nghymru. Mae ein grŵp cleientiaid ein hunain, pobl hŷn yn y sector tai preifat heb fod yn derbyn fawr mwy na'r pensiwn gwladol, yn byw yn y cartrefi oeraf, lleithaf ac anoddaf eu gwresogi yng Nghymru.

Dengys amcangyfrifon tlodi tanwydd sydd newydd eu cyhoeddi ar gyfer Cymru:

  • aelwydydd pensiynwyr yw 43% o gartrefi mewn tlodi tanwydd;
  • bod un ym mhob pump o bensiynwyr sengl ac un ym mhob pump o bensiynwyr dros 75 oed mewn tlodi tanwydd;
  • mae dau mewn tri o aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn rhai perchen-breswylydd ac un ym mhob pedwar yn cael eu rhentu'n breifat;
  • mae tri chwarter aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn rhai perchen-breswylydd ac un ym mhedwar yn rhai rhent preifat;
  • mae tri chwarter aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn derbyn budd-dal prawf modd tebyg i'r Credyd Pensiwn.
  • Pobl hŷn mewn tai preifat sydd yn y risg mwyaf o dlodi tanwydd a'r niwed dilynol. Maent yn treulio 70-90% o'u hamser yn eu cartrefi. Maent yn fwy bregus i risgiau iechyd byw mewn cartref oer - salwch anadlol, clefyd cardiofasgwlaidd, strôc, symudedd is, arthritis, straen ac afiechyd meddwl.

Hwy hefyd sydd yn y risg mwyaf o farw fel canlyniad i'w tlodi tanwydd. Yn 2017/18 fe wnaeth nifer y marwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf bron ddyblu, yn effeithio'n bennaf ar bobl hŷn. Bu 3,400 o bobl farw yng Nghymru lle'r oedd mynegai rhanbarthol y Deyrnas Unedig ar ei uchaf. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn priodoli traean marwolaethau o'r fath i ganlyniadau byw mewn cartref oer a llaith.

Diolch byth, mae eleni wedi gweld ymdeimlad newydd o egni ym maes polisi tlodi tanwydd Cymru. Mae penderfyniad Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, i ddiweddaru Strategaeth 9 mlwydd oed Llywodraeth Cymru wedi sbarduno cadwyn o adweithiau'n gysylltiedig â pholisi tlodi tanwydd ar ran Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol, Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru a mwy - ac rydym wedi medru rhannu ein profiad ar y rheng flaen.

Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn ymweld â chartrefi pobl hŷn bob dydd. Maent yn gweld drostynt eu hunain yr anawsterau a gaiff pobl hŷn i gadw'n gynnes ac yn iach. Maent yn gwybod am gryfderau, gwendidau a'r bylchau yn y cymorth sydd ar gael iddynt. Ac, fel rhan o'n prosiect 'Ymladd Tlodi Tanwydd' Cynllun Unioni Ynni rydym wedi gofyn i'n timau lleol gofnodi a dangos yr hyn a welant. Mae eu hymatebion a ffotograffau wedi rhoi tystiolaeth rymus i ni ac rydym yn seilio ein cyfraniadau i'r drafodaeth ar bolisi tlodi tanwydd yng Nghymru ar hynny.

Yn fwyaf diweddar, gofynnodd Ymchwiliad Tlodi Tanwydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol rai cwestiynau mawr ac eang. Mewn ymateb i hynny roedd gennym lawer i'w ddweud ar:

  • natur eang a chymhleth tlodi tanwydd pobl hŷn yng Nghymru, yr effeithiau gwanychol yn nhermau ffordd o fyw, iechyd corfforol a llesiant meddwl; y canlyniadau hunan-barhaus ar union ffabrig pobl cartrefi hŷn - ac i'n pobl hŷn fwy llesg, amhosibilrwydd llwyr mynd i'r afael â'u sefyllfa;
  • y llu o ffyrdd y mae Rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru wedi helpu i atal tlodi tanwydd - a'r llawer mwy o ffyrdd y mae angen gwella ar y cynlluniau sy'n rhan o'r rhaglen, Nyth ac Arbed, i sicrhau darpariaeth hygyrch, effeithlon ac ansawdd uchel ar gyfer ein pobl hŷn mwyaf bregus;
  • yr angen am adnewyddu polisi a buddsoddiad ariannol yn yr ased genedlaethol ddibrisiol sef stoc tai preifat presennol Cymru. Mae'n cynnwys 82% o'r holl gartrefi, dyma ble mae 81% o'n pobl hŷn yn byw a bydd 90% ohono yn dal i gael ei ddefnyddio yn 2050, ac erbyn hynny mae angen i'n holl anghenion tai gyflawni allyriadau dim carbon net. Eto tai preifat yw'r lleiaf effeithiol yn thermol a thlotaf o ran ynni o ddaliadaethau tai ac mae ei ffawd ôl-osod bron yn hollol ddibynnol ar ei berchnogion. Nid yw'r bobl hŷn y gweithiwn gyda nhw yn abl i ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw ar eu pen eu hunain.

Roedd Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol ac mae Cymru wedi symud beth o'r ffordd at ei tharged o ddileu tlodi tanwydd ond mae'n dal ymhell o gyrraedd y nod. Ni chafodd cymhlethdod yr her ei werthfawrogi'n ddigonol, felly hefyd bwysigrwydd hanfodol dull gweithredu cyson, trefnus ac integredig.
Mae tîm gwasanaeth sifil newydd yn ei le ac mae wedi gweithio'n galed i sicrhau cyfraniad rhan-ddeiliaid o'r trydydd sector, yn cynnwys Gofal a Thrwsio, at ddatblygiad y Cynllun newydd. Mae gan y dull gweithredu hwnnw y potensial i osod sylfeini cadarn ar gyfer y cydweithio ymroddedig sydd ei angen os yw tlodi tanwydd i gael ei drin yn effeithlon.

Ac mae'n rhaid gwneud hynny. Ni ddylai fod unrhyw le yn y Gymru fodern ar gyfer cartrefi oer a llaith a all ladd.

Gallwch ddarllen ein tystiolaeth lawn i Ymchwiliad y Pwyllgor yma. Edrychwn ymlaen at ei adroddiad terfynol ac yna ymateb i ddrafft Gynllun Llywodraeth Cymru. Cynhelir ymgynghoriad ar hwnnw yn y Flwyddyn Newydd a gwyddom, eisoes, fod gennym lawer ar ôl i'w ddweud.

Juliet Morris