Noson Elusennol Care & Repair Cymru

Bydd caneuon i'ch ysbrydoli gan gorau cymunedol Laura Bradshaw a chaneuon i'ch swyno gan Elena Piras, a enillodd wobrau fel cantores ac awdur caneuon.

Mae gwledd o'ch blaen os na fuoch yn Eglwys Sant Ioan o'r blaen. Daeth yr eglwys yn lleoliad cyson ar gyfer digwyddiadau cerdd.

Cafodd ei hadnewyddu'n ddiweddar i ddarparu ar gyfer perfformiad, gellir cyfnewid gwydraid o win am gyfraniad a bydd acwsteg o'r radd flaenaf yn sicrhau y byddwch yn mwynhau'r sain gorau posibl.

Mae tocynnau ar gael wrth y drws (£7 a £5 consesiwn). Cysylltwch â: [email protected] i gael mwy o wybodaeth.