Gwasanaeth Adre o'r Ysbyty
Nid yw'n gyfrinach fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dan fwy o bwysau nag erioed a bod ysbytai ledled y Deyrnas Unedig yn ei chael yn anodd ateb y galw cynyddol am adnoddau a gwelyau.
Gyda mwy o gleifion angen gofal clinigol arbenigol, mae'n bwysig y caiff y rhai sy'n barod i fynd adre eu rhyddhau o'r ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel. Ond dim ond os oes gan gleifion gartrefi addas a diogel i ddychwelyd iddynt mae hyn yn bosibl.
Yn 2014 fe wnaethom lansio gwasanaeth peilot Adre o'r Ysbyty yn gweithio gydag Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cyn hyn, roedd yr ysbyty wedi bod yn gweithredu cynllun pwysau argyfwng oedd yn ymatebol i raddau helaeth, ac roedd bylchau amlwg mewn darpariaeth gwasanaeth ar gyfer pobl hŷn yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty.
Roedd hyn yn aml yn arwain at oedi wrth ryddhau o ysbyty ac, mewn llawer o achosion, fod pobl yn gorfod cael eu hail-dderbyn i ysbyty.
Am y gwasanaeth
Mae gwasanaeth Adre o'r Ysbyty yn cynnwys clinigwyr a nyrsys yn gweithio'n uniongyrchol gyda staff Gofal a Thrwsio yn seiliedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru i ddynodi anghenion cleifion hŷn cyn iddynt gael eu rhyddhau.
Ar ôl i swyddogion gofal iechyd osod dyddiad rhyddhau, mae staff Gofal a Thrwsio'n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion i asesu ac addasu eu cartref fel eu bod yn addas iddynt ddychwelyd iddynt.
Pam ei fod yn gweithio
Ers ei lansio, mae'r gwasanaeth wedi helpu dros 4,500 o gleifion ac wedi gwella amserau rhyddhau o dros wythnos i ddim ond 24 - 48 awr. Cafodd hyn effaith gadarnhaol iawn ar yr ysbyty cyfan gyda gwelyau'n cael eu rhyddhau ar wardiau, gan olygu fod mwy o gleifion yn medru symud ymlaenn o'r adran argyfwng a chael y gofal priodol.
Yn ogystal â manteision clinigol, mae rhyddhau cyflym o'r ysbyty hefyd yn fuddiol tu hwnt ar gyfer iechyd a llesiant hirdymor cleifion hŷn.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth: