Etholiad y Deyrnas Unedig: Beth y gallai’r cyfan ei olygu ar gyfer pobl hŷn a thai yng Nghymru

Mewn ychydig ddyddiau, bydd y wlad yn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol pwysicaf am ddegawdau. Wrth i sŵn a dwndwr yr ymgyrchoedd etholiadol agosáu at eu terfyn, beth ddylai pobl hŷn ei ddisgwyl gan lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig? Sut y gallai effeithio ar y 30,000 o bobl hŷn mae Gofal a Thrwsio yn eu cefnogi yng Nghymru bob blwyddyn i fyw'n annibynnol mewn cartrefi cynnes, diogel a chyfleus?

Yma yn Gofal a Thrwsio Cymru rydym wedi pori drwy faniffestos y prif bleidiau i weld sut y gallai eu hymrwymiadau effeithio ar gartrefi a bywydau ein cleientiaid. Rydym wedi cadw mewn cof fod iechyd, tai, gofal cymdeithasol a meysydd allweddol eraill wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Sylweddolwn hefyd y bydd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn penderfynu faint o arian a gaiff Llywodraeth Cymru i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus hyn. Yn bwysig, bydd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig hefyd yn penderfynu faint o fudd-daliadau a gaiff pobl hŷn.

Er nad oes gennym belen risial, rydym wedi ystyried goblygiadau ymrwymiadau'r pleidiau:

  • Mwy o arian pwy bynnag sy'n ennill: Pwy bynnag fydd yn ennill yr etholiad, disgwylir i gyfanswm gwariant dydd-i-ddydd y sector cyhoeddus gynyddu gan tua £1.9bn y flwyddyn, yn unol ag ymrwymiadau blaenorol y llywodraeth. Mae unrhyw ymrwymiadau maniffesto yn ychwanegol at hyn.
  • Os cânt eu hethol, byddai'r Ceidwadwyr yn cynnal y sefyllfa fel y mae: Byddai gwariant cyhoeddus dydd-i-ddydd yng Nghymru yn cynyddu gan tua 1% hyd at 2024, gyda'r rhan fwyaf wedi ei glustnodi i iechyd. Byddent hefyd yn cynyddu gwariant buddsoddiad gan tua £500m y flwyddyn drwy 'fargeinion twf' ar draws rhanbarthau Cymru.
  • Byddai llywodraeth Lafur a/neu glymblaid yn agor y tapiau: Gallai gwariant ar wasanaethau dydd-i-ddydd gynyddu gan hyd at 18% (mwy gyda'r Blaid Werdd, llai gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol). Gallai buddsoddiad mewn datgarboneiddio ac uwchraddio seilwaith, tebyg i ynni, trafnidiaeth a thai hefyd gynyddu gan dros £3bn y flwyddyn (gallai hyn fod dros £5bn gyda'r Blaid Werdd).
  • Bydd polisi presennol Llywodraeth Cymru yn datblygu ar yr un cyflymder â maint a'r cyllid a ddyrennir gan Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig. Mae maniffesto Llafur Cymru yn adlewyrchu ei bwriad i ddatblygu a thrawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal gyda chyllid ychwanegol. Mae eisiau darparu mwy o ofal yn nes adre a bydd yn ystyried ymestyn gofal cymdeithasol am ddim i fwy o bobl.
  • Mae pob plaid yn ymrwymo i wella effeithiolrwydd ynni cartrefi: Fodd bynnag, mae'r arian i gefnogi'r ymrwymiadau ac amserlenni hyn yn amrywio. Mae Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd i gyd yn ymrwymo buddsoddiad helaeth dros y tymor byr gyda gwahanol dargedau carbon niwtral rhwng 2030-2045. Nid yw'r Ceidwadwyr yn rhoi fawr o fanylion ar gyllid ac maent yn anelu am 2050.
  • Caiff budd-daliadau pobl hŷn eu cynnal: Mae pob plaid wedi ymrwymo i gadw ac mewn llawer o achosion wella budd-daliadau pensiynwyr, yn cynnwys cynigion i gael gwared â'r cynnydd arfaethedig i'r oedran pensiwn gwladol (dan Lafur) a chynyddu'r cyfanswm taliad pensiwn (dan y Blaid Werdd). Mae Llafur a'r Ceidwadwyr wedi gwarantu'r Lwfans Tanwydd Gaeaf, trwyddedau teledu am ddim a phasiau bws am ddim fel budd-daliadau cyffredinol ar gyfer pobl hŷn.

Mae Care & Repair Cymru bob amser yn ymroddedig i'n cyfrifoldebau elusennol o barhau'n ddi-duedd ac amhleidiol o ran y pleidiau. Rydym wrth gwrs yn hapus i roi unrhyw wybodaeth y mae ymgeiswyr yn gofyn amdani i helpu llywio eu hymrwymiadau, os yw'n cefnogi ein cenhadaeth i sicrhau fod pob person hŷn yng Nghymru yn byw'n annibynnol mewn cartrefi cynnes, diogel a hygyrch. Rydym hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf fel hyn i'n 13 asiantaeth leol Gofal a Thrwsio i'w hysbysu am newidiadau polisi a all effeithio ar eu gwaith yn gwella cartrefi pobl hŷn.