Codi llais dros bobl hŷn mewn tlodi tanwydd

Mae Gofal a Thrwsio yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ei rhaglen Cartrefi Cynnes a rhoi gwell cymorth i bobl hŷn.

Beth yw tlodi tanwydd?

Mae aelwyd mewn tlodi tanwydd os yw’n gwario 10% neu fwy o’i hincwm ar eu biliau ynni. Roedd 155,000 aelwyd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd cyn y pandemig.

Mae cap pris ynni yn cynyddu ar 1 Ebrill, gan olygu y bydd gwresogi eich cartref yn ddrutach nag erioed. Mae National Energy Action wedi amcangyfrif y bydd 250,000 aelwyd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd pan ddaw’r newidiadau yn y cap pris ynni i rym.

Beth yw’r rhaglen Cartrefi Cynnes?

Mae gan Gymru gynllun tlodi tanwydd sy’n anelu i ostwng nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd i 5% erbyn 2035 – sy’n gyfystyr â bron 70,000 aelwyd.

Mae rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn rhan o’r cynllun hwn. Mae’r rhaglen yn cyllido gwelliannau i gartrefi i gynyddu eu heffeithiolrwydd ynni. Gallai hyn gynnwys boeler newydd, gwell insiwleiddiad neu atgyweirio system wresogi.

Mae adolygiad yn mynd rhagddo o’r rhaglen Cartrefi Cynnes ac mae Gofal a Thrwsio yn galw am well cymorth i aelwydydd yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi tanwydd neu mewn risg o hynny.

Beth mae Gofal a Thrwsio yn gofyn i’r Llywodraeth ei wneud?

Mae Care & Repair Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:

-        Fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Cynnes yn rhoi’r help cyntaf i aelwydydd sy’n byw yn y tlodi tanwydd gwaethaf

-        Mesurau i wella effeithiolrwydd thermol a threchu tlodi tanwydd yn cymryd dull gweithredu person cyfan, tŷ cyfan i ddiwallu anghenion unigol

-        Y caiff mesurau eu cymryd mewn cartrefi i fynd i’r afael â thlodi tanwydd fel mater o frys cyn symud i ddatgarboneiddio

-        Bod cyngor a chymorth ar gael ledled Cymru i helpu aelwydydd ddeall yr hyn y gallant ei wneud i ddefnyddio llai o ynni ac y cânt eu cefnogi’n llawn i ddefnyddio unrhyw dechnoleg newydd a allai gael ei gosod yn eu cartref.

Pa bolisïau mae Gofal a Thrwsio yn galw am eu newid?

O’n profiad o raglen bresennol Cartrefi Cynnes, mae ychydig o bolisïau penodol iawn y galwn iddynt gael eu newid:

Dileu’r cap £16,000 ar gynilon pobl 75 oed a throsodd

  • Ar hyn o bryd dim ond os ydych dros 75 oed y mae’n cyfrif os oes gennych gynilon. Mae hynny’n golygu y gall rhywun 74 oed gael help hyd yn oed os oes ganddynt gynilon, ond na all rhywun a gafodd eu geni ychydig fisoedd o’u blaen gael hynny. Credwn fod hyn yn wahaniaethu – ni ddylai fod yn wir eich bod yn cael llai o help os ydych yn hŷn.

Peidio cyfrif budd-daliadau anabledd fel incwm.

  • Mae’r cynllun presennol yn cyfrif Lwfans Gweini a Thaliadau Annibyniaeth Personol fel incwm aelwyd. Mae Care & Repair Cymru yn credu na ddylai budd-daliadau a roddir i bobl sy’n byw gydag anableddau ar gyfer costau ychwanegol sydd ganddynt gael eu cyfrif tuag at incwm aelwyd prawf modd. Nid yw hyn yn deg. Mae pobl sy’n byw gyda chyflyrau difrifol angen mwy o’r budd-daliadau hyn – mae hyn yn golygu ar hyn o bryd pa fwyaf difrifol yw eich cyflwr, yr uchaf yw incwm eich aelwyd a’r llai tebygol ydych o fod yn gymwys am y rhaglen Cartrefi Cynnes. Ni chredwn y dylai fod fel hyn.

Ymestyn cymhwyster cyflyrau iechyd unrhyw raglen.

  • Dan Nyth, mae byw gyda rhai cyflyrau iechyd yn golygu cymhwyster am help: clefyd anadlol neu gardiofasgiwlaidd, neu fyw gyda chyflwr iechyd meddwl fel pryder neu iselder. Credwn y dylid ymestyn hyn i gynnwys cyflyrau iechyd eraill a gaiff eu gwaethygu gan oerfel, yn cynnwys arthritis.