Adeiladu ein Dyfodol Gorau: Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2022
I bobl hŷn, mae’r pandemig wedi achosi ofn, unigrwydd a chynnydd enfawr yn faint o amser a dreuliant yn eu cartrefi. Bu hyn yn hunllef i’r rhai sy’n byw mewn tai gwael. Bydd Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2022 yn dod â phobl o’r un anian ynghyd i adeiladu’r dyfodol gorau posibl ar gyfer pobl hŷn sydd yn yr amgylchiadau heriol yma.
Yn y gynhadledd hon, fydd yn gyfangwbl ar-lein, bydd gwleidyddion ac arweinwyr yn y maes tai a gofal pobl hŷn yn ymuno gyda’r rhai sy’n ymweld â phobl hŷn yn eu cartrefi
bob dydd ac sy’n gweld yr heriau drostynt eu hunain. Bydd cyfuniad o sesiynau llawn a gweithdai, gyda llawer o gyfleoedd i gynrychiolwyr gymryd rhan, trafod a gofyn cwestiynau.
Dim ond cynyddu mae’r problemau, fel y gwelwn gyda’r cynnydd ym mhrisiau ynni, gan wneud biliau tanwydd hyd yn oed yn fwy anhylaw i’r rhai mewn tlodi tanwydd. Eto, credwn y gallwn gyda’n gilydd adeiladu dyfodol gwell a mwy disglair ar gyfer pobl hŷn.
Siaradwyr Gwadd:
- Julie James AoS – Gweinidog dros Newid Hinsawdd
- Heléna Herklots – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Jeremy Porteus – Prif Swyddog Gweithredol Housing LIN
Cost:
Cyfradd Cynrychiolydd: £75
Pryd:
15 Chwefror 2022
Lle:
Ar-lein