Bydd Gofal a Thrwsio yn parhau i ddarparu gwaith atal hanfodol, sydd ei angen ar frys a/neu mewn argyfwng, a rhyddhau o'r ysbyty mewn cartrefi pobl hŷn.
Mae'r prosesau asesu risg canlynol yn eu lle:
Ar gyfer cleientiaid sy'n ymwarchod – y rheiny sydd â'r risg fwyaf sydd wedi derbyn llythyr gan y GIG i aros adref am 12 wythnos:
Mae hyn yn cynnwys pobl 70 mlwydd oed ac hŷn, nifer fawr o'n cleientiaid, yn ogystal â phobl sydd eisioes â chyflwr iechyd ddiffiniedig. Mi fydd nifer yn byw gyda phobl nad sydd yn y categori hwn. Mae canllawiau'r Llywodraeth yn nodi dylid ymarfer hylendid da ac ymbellhau cymdeithasol oddi fewn i'r cartref er mwyn lleihau'r risg trosglwyddo.
Pan yn gweithio yng nghartrefi'r cleientiaid hyn, dylid dilyn canllawiau'r Llywodraeth ar hylendid cywir (ar gyfer gweithwyr a'u hoffer), gwisgo'r Cyfarpar Diogelu Personol priodol ac ymbellhau'n gymdeithasol.
I'r rheiny sydd yn hunan-ynysu oherwydd maent yn dangos symptomau
Gellir fynd mewn i gartrefi'r cleientiaid hyn pan mae angen gwaith ar frys neu mewn argyfwng. Byddai boeler nwy wedi'i dorri, gollyngiadau dŵr, neu draen/toiled wedi blocio yn y categori hwn.
Dylid defnyddio'r Cyfarpar Diogelu Personol priodol, gan gynnwys: dillad diogelu (golchadwy/tafladwy), masgiau, menig, hylif/rhwbiadau diheintio ar gyfer dwylo ac offer.
Dylai cleientiaid aros mewn ystafell arall tra cwblheir y gwaith.
Ar gyfer y boblogaeth gyffredinol h.y. rheiny sy'n aros adref/yn ymbellhau'n gymdeithasol
Gellir fynd mewn i gartrefi cleientiaid, gyda Chyfarpar Diogelu Personol priodol a defnyddio hylendid ac ymbellhau'n gymdeithasol yn gywir, yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.
Gwaith allanol
Mae gan gwaith allanol llai o risg o drosglwyddo'r feirws, ond dylid dal wisgo'r Cyfarpar Diogelu Personol priodol, cadw safonau hylendid ac ymbellhau'n gymdeithasol yn ôl canllawiau'r llywodraeth.
Mewn cyfweliad, gwnaeth y Gweinidog Cabinet Michael Gove AS yn glir byddai plwmwr sy'n trwsio boeler torredig person hŷn yn gweithredu'n gyfreithiol. Ystyrir yn "waith hanfodol" ac yn amddiffyn person bregus. Mynnodd y byddai rhaid i'r plwmwr a'r cwsmer ymbellhau'n gymdeithasol, gan gynnwys yn ôl y canllawiau 'ymwarchod' newydd ar gyfer pobl bregus iawn. Arwyddocaodd hefyd byddai unrhywun sy'n gweithio i helpu pobl gadw'n ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi yn dderbyniol. Byddai hynny'n cnnwys pob gwasanaeth ymarferol gan Ofal a Thrwsio i bob cleient, er gwaethaf eu hanghenion penodol.
Gwaith rhyddhau o'r ysbyty
Bydd Llywodraeth Cymru'n rhyddhau canllawiau ar brosesau rhyddhau o'r ysbyty a fydd yn debygol o roi mwy o bwysigrwydd ar waith ysbyty-i'r-cartref.