P'un ai ydych yn unigolyn, yn aelod o grŵp neu'n fusnes, mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan wrth ein helpu. Os dymunwch godi arian ond yn methu meddwl am syniadau, yna rydych wedi dod i'r lle cywir. Edrychwch ar ein syniadau gwych am godi arian i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru i gael cartrefi cynnes, diogel ac addas ar gyfer eich anghenion.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected] neu ffonio 02920 107580.
Darllenwch ein canllawiau codi arianFaint ydych chi'n ei wario ar bethau nad ydych eu hangen mewn gwirionedd? Beth am roi'r gorau i siwgr, te, coffi, ysmygu, yfed alcohol, prynu dillad neu yrru i'r gwaith ac un ai gyfrannu'r arian a arbedwch neu gael ffrindiau a chydweithwyr i'ch noddi, neu'r ddau!
Oes gennych chi gwpwrdd yn llawn dillad nad ydych yn eu gwisgo bellach? Nid ydych ar ben eich hun, mae gan y rhan fwyaf o bobl lawer mwy nag maent angen. Beth am i chi a rhai o'ch ffrindiau drefnu ffeirio dillad. Mae'n ffordd hwyliog i godi arian ac adnewyddu eich cwpwrdd dillad ar yr un pryd.
O deithiau cerdded a rhedeg noddedig, i deithiau seiclo hwyl i'r teulu, dringo mynyddoedd, syrffio, nofio a snorcelu mwd, mae digon o gyfleoedd i gymryd her bersonol.
Why not run Cardiff Half for us?Gyda chynifer o geir ar y ffyrdd, mae pawb angen golchi eu ceir o bryd i'w gilydd. Gallech ofyn i ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion neu hyd yn oed roi cynnig arni ym maes parcio eich archfarchnad leol. Y cyfan rydych ei angen yw bwced a sbwng.
Lledaenwch y gair am Gofal a Thrwsio a gwahodd eich ffrindiau am barti cynhesu tŷ. Gallech ei gynnal yng nghysur eich cartref eich hun neu ganfod safle cymunedol. Codwch ffi fechan am fynediad a chynnal raffl neu arwerthiant i godi arian ychwanegol.
Mae cynnal cwis yn ffordd hwyliog i godi arian. Nid yw'n rhaid iddo fod mewn tafarn, gallech ei gynnal yn eich canolfan gymunedol leol neu hyd yn oed eich cartref eich hun. Codwch ffi fechan am gymryd rhan a chynnig gwobrau i'r tîm gwobrwyol. Yn sicr i ennyn diddordeb pobl a'u hawdd i ennill!
Pwy sy'n cofio Bob a Job neu Strive for Five? Beth am gynnig gwneud neges neu lanhau i rywun a gofyn am
Mae pawb yn ei wneud oherwydd fod gan bawb ohonom ormod o bethau. Mae ailgylchu'r hyn nad ydym ei eisiau yn helpu i gadw trefn ar ein bywydau, yn ddal i'r amgylchedd ac yn ffordd rwydd o godi ychydig bunnau i wella ansawdd bywyd pobl hŷn.
Mae'n dda i'ch iechyd, mae'n gyfle i gwrdd â phobl newydd, mae'n ddifyr ac mae am ddim. Beth am drefnu taith gerdded machlud gyda grwpiau o ffrindiau? Cyfle i weld golygfeydd hyfryd ar yr un pryd â chodi ymwybyddiaeth a helpu i adeiladu Cymru lle gall pob person hŷn ddewis byw'n annibynnol mewn cartrefi cynnes a diogel.
Cynnal clwb cinio gan wahodd staff i goginio a dod â'u cinio yn ôl am gyfraniad. Gallech gall thema i'ch clwb cinio e.e. bwyd o bob rhan o'r byd.
Nid yw o bwys beth yw'r digwyddiad, mae swîp yn hwyl ac yn rhwydd ei drefnu. Gallwn roi templed, y cyfan sy'n rhaid i chi wneud yw cael eich ffrindiau neu gydweithwyr i dalu cwpl o bunnau i gymryd rhan ac yna roi hanner o'r hyn a godwch i'r enillydd a hanner i Gofal a Thrwsio.
Mae pawb eisiau diwrnod ychwanegol i ffwrdd. Gofynnwch i'ch cyflogwr gyfrannu diwrnod ychwanegol o wyliau a chynnal raffl i weld pwy all ei ennill.