Cefnogwyr Masnachol
Fel y corff cenedlaethol ar gyfer Gofal a Thrwsio yng Nghymru, rydym yn "Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn".
Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn darparu ystod eang o wasanaethau i'r mudiad Gofal a Thrwsio ledled Cymru. O lobio ac ymgyrchu, i drefnu cyfarfodydd, fforymau, cyrsiau hyfforddiant a chynadleddau, o wybodaeth hyrwyddo ar gyfer cleientiaid i gyhoeddusrwydd a deunydd cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer y cyfryngau a rhanddeiliaid.
Fel canlyniad i'n gweithgareddau gallwn gynnig nifer o gyfleoedd i sefydliadau sy'n dod yn Cefnogwyr Masnachol i gysylltu gyda ni a mudiad Gofal a Thrwsio yn ehangach ledled Cymru, ar yr un pryd â chyfrannu at ein gwaith yn helpu i wella amodau byw pobl hŷn agored i niwed.
Buddion
- Defnyddio logo Cefnogwr Masnachol Care & Repair Cymru
- Cael eich rhestru fel Cefnogwr Masnachol ar wefan Care & Repair Cymru
- 100 gair am eich sefydliad gyda dolen i'ch gwefan eich hun ar wefan Care & Repair Cymru
- 10% i ffwrdd cost gofod arddangos yn ein cynhadledd flynyddol ym mis Medi a chynadleddau eraill
- Gwahoddiad i fynychu a siarad am eich sefydliad a/neu gynnyrch yn un o gyfarfodydd cenedlaethol Rhwydwaith Gofal a Thrwsio
- Cyfle i gyhoeddi erthygl newyddion/gwybodaeth yn ein cylchlythyr staff rheolaidd Insider Insights
- Cyfle cyntaf ar gyfleoedd nawdd am ein digwyddiadau a chyhoeddiadau
- Hysbysiadau E-bost/Twitter am Care & Repair Cymru a'r mudiad yn ehangach
- Hyrfwyddo eich sefydliad drwy negesuon Twitter Care & Repair Cymru
- Copi o Mewn Cysylltiad, ein cylchlythyr chwarterol i gleientiaid
- Rydym yn hapus i drafod unrhyw awgrymiadau neu syniadau am sut y gallwn gydweithio'n well gyda'n gilydd.
Dod yn Cefnogwyr Masnachol
I ddod yn cefnogwyr masnachol, llenwch y cais yma a dychwelwch i Datblygu Busnes yn Care & Repair Cymru, Tŷ Mariners, Heol East Moors, Caerdydd CF24 5TD.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfarfod i drafod eich aelodaeth, cysylltwch â Vera Brinkworth.