Croeso i’n gwefan. Os ydych yn parhau i bori a defnyddio’r wefan yma, rydych yn cytuno i gydymffurfio gyda a chael eich rhwymo gan y telerau ac amodau defnydd dilynol, sydd ynghyd â’n polisi preifatrwydd yn rheoli perthynas Care & Repair Cymru gyda chi yng nghyswllt y wefan yma. Peidiwch â defnyddio ein gwefan os gwelwch yn dda os ydych yn anghytuno gydag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn.

Mae’r term ‘Care & Repair Cymru’ neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan gyda’n swyddfa gofrestredig yn Tŷ Mariners, Heol East Moors, Caerdydd CF24 5TD. Mae Care & Repair Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Elusen 1163542. Cwmni Cyfyngedig drwy Warant: 9574555. Cofrestrwyd yng Nghymru. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at y sawl sy’n defnyddio neu’n edrych ar ein gwefan.

Mae’r telerau defnydd dilynol ar y wefan yma:

  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan ar gyfer eich gwybodaeth a defnydd cyffredinol yn unig. Gall newid heb hysbysiad.
  • Mae’r wefan yn defnyddio cwcis i fonitro dewisiadau pori. Os ydych yn caniatáu defnyddio cwcis, gallwn storio’r wybodaeth bersonol ddilynol i’w defnyddio gan drydydd parti.
  • Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn rhoi unrhyw warant neu sicrwydd am gywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnder neu addasrwydd yr wybodaeth a deunyddiau a ganfyddir neu a gynigir ar y wefan hon ar gyfer unrhyw ddiben neilltuol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys camsyniadau neu gamgymeriadau ac rydym yn benodol yn eithrio atebolrwydd am gamsyniadau neu gamgymeriadau o’r fath i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.
  • Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan yn llwyr ar eich risg eich hun, na fyddwn yn atebol amdanynt. Eich cyfrifoldeb chi eich hun fydd sicrhau fod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael ar y wefan yn cyflawni eich gofynion penodol.
  • Mae’r wefan yn cynnwys deunydd yr ydym ni yn berchen arno neu a drwyddedwyd i ni. Mae’r deunydd yma’n cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, ddyluniad, cynllun, golwg, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu heblaw yn unol â’r hysbysiad hawlfraint sy’n ffurfio rhan o’r telerau ac amodau hyn.
  • Caiff yr holl nodau masnach eu hatgynhyrchu yn y wefan hon, nad yw’r gweithredydd yn berchennog arnynt neu na chafodd eu trwyddedu iddo, eu cydnabod ar y wefan.
  • Gall defnydd heb awdurdod o’r wefan achosi hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.
  • O bryd i’w gilydd, gall y wefan hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Caiff y dolenni hyn eu rhoi er eich cyfleuster i roi mwy o wybodaeth. Nid ydynt yn arwydd ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y wefan/gwefannau cysylltiedig.

Mae eich defnydd o’r wefan ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o ddefnydd o’r fath o’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.