Enwebu Tîm Gwirfoddolwyr Attic Project am wobr
Mae gwirfoddolwyr yr Attic Project newydd eisoes yn gwneud argraff. Enwebwyd y tîm ar gyfer 'Gwobr Tîm Trydydd Sector y Flwyddyn' yng Ngwobrau Iechyd a Gofal South Wales Argus eleni. Mae'r gwobrau'n cydnabod gwaith pwysig yr elusen a thimau cymunedol mewn iechyd a gofal.
Mae'r Attic Project yn helpu pobl 50+ i fyw yn fwy cysurus yn eu cartrefi eu hunain. Mae ein gwirfoddolwyr yn helpu ein cleientiaid i dacluso a gwneud lle yn eu cartrefi, gan ei gwneud yn bosibl gwneud gwaith trwsio ac addasu a helpu i ostwng risg syrthio.
Mae ein gwirfoddolwyr angerddol a charedig yn cefnogi ein cleientiaid i ddidoli eu heiddo, gan roi amser i siarad am yr atgofion a gaiff eu hysgogi gan eitemau a drysorir a helpu i waredu â phethau yn sensitif a gofalu am yr amgylchedd.
Dywedodd Catherine, Cydlynydd Prosiect Atgofion "Mae gan ein gwirfoddolwyr gydymdeimlad go iawn ac maent yn rhoi cefnogaeth anfeirniadol i bobl a all fod yn teimlo wedi eu llethu.
"Gall neilltuo amser i hel atgofion ei gwneud yn haws i bobl adael i eitemau fynd neu roi gwaddol ar gyfer teulu a'r gymuned."
Er mai dim ond ddechrau eleni y lansiwyd yr Attic Project, mae gwirfoddolwyr eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd cleientiaid.
Ar ôl iddi syrthio, roedd angen i Naomi newid yr ystafell gyfleus yn ei chartref yn ystafell ymolchi lawr grisiau:
"Mae fy ngwirfoddolwr Rob wedi bod yn gymaint o help. Nid oedd unrhyw dasg yn ormod iddo. Alla'i byth ddweud faint mae wedi fy helpu. Fedrwn ni byth fod wedi gwneud y gwaith yma heb ei help, gan fy sicrhau ar hyd yr amser y byddai popeth yn iawn."
Ar 18 Hydref mynychodd Rob a Catherine ynghyd â Charlotte, Swyddog Datblygu Prosiect Attic, Ginio Gwobrau Iechyd a Gofal yng Nghae Rasio Cas-gwent. Er na wnaethant ennill ar y noswaith, cafodd y tîm dystysgrif am fod yn y rownd derfynol, a dderbyniwyd gan Rob ar ran holl wirfoddolwyr yr Attic Project.
Mae cael eich enwebu am wobr ym mlwyddyn gyntaf y prosiect yn gryn gamp a gall ein gwirfoddolwyr fod yn wirioneddol falch ohono - llongyfarchiadau mawr i holl wirfoddolwyr yr Attic Project!
Mae'r Attic Project yn brosiect partneriaeth rhwng Gofal a Thrwsio a VCS Cymru a chaiff ei gyllido gan Gronfa'r Loteri Fawr ar draws Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg.
I gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli ar gyfer yr Attic Project ffoniwch Catherine ar 07934 531 001
Os dymunwch gael cefnogaeth i wneud lle adref, cysylltwch â Gofal a Thrwsio ar 0300 111 33 33