Attic Project yn awr yn cefnogi pobl 50 oed a throsodd
Mae'r Attic Project wedi gwneud newid fel y gall mwy o bobl fanteisio o'r gwasanaeth.
Bydd y gwasanaeth yn awr ar gael i bobl 50 oed a throsodd.
Yn flaenorol, bu pobl 60 oed a throsodd yn manteisio o gefnogaeth arloesol y Prosiect. Ond nawr gall hyd yn oed fwy o bobl gael cefnogaeth gyda hel atgofion, symud ac ail-drefnu eiddo yn eu cartrefi.
Mae'r Attic Project yn brosiect partneriaeth rhwng Gofal a Thrwsio a VCS Cymru. Gyda chyllid gan y Loteri Fawr, mae'r gwasanaeth ar gael yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg.
Ffoniwch 0300 111 33 33 os gwelwch yn dda os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth.