Gwneud lle yn eich cartref
Mae'r Attic Project yn wasanaeth am ddim a all eich helpu i gael gwared, ailgylchu neu ail-drefnu eitemau o'ch eiddo mewn ffordd sy'n gweithio i chi.
Gallai gwneud lle yn eich cartref;
• Greu lle ar gyfer trwsio, addasu a gwella eich cartref
• Ei gwneud yn rhwyddach i chi fynd o amgylch eich cartref
• Gostwng eich risg o dân, syrthio a damweiniau
• Eich helpu i ddod adre o'r ysbyty ynghynt
• Eich helpu i symud i gartref llai neu gartref mwy addas
Pwy all ddefnyddio'r Attic Project?
Pobl 50+ oed sy'n byw yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg.
Beth mae'r Attic Project yn ei gynnig?
• Gwybodaeth a chyngor
• Ymweliad cartref i drafod eich anghenion
• Symud eich eitemau yn rhad ac am ddim
• Cymorth gwirfoddol i'ch helpu i ddidoli a gwneud penderfyniadau am eitemau o'ch eiddo
• Cyfleoedd i chi siarad am yr atgofion tu cefn i eitemau pwysig o'ch eiddo
Ni fyddwn byth yn cael gwared ag eitemau eiddo heb eich caniatâd.
Er y gall yr Attic Project eich helpu i wneud lle, ni all fynd i'r afael â phryderon am gelcian neu glirio tai.
I gael mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau a ddarperir gan Attic Project, mae croeso i chi gysylltu â ni neu ofyn i rywun gysylltu â ni ar eich rhan.