Mae Mrs Morris (81 oed) yn wraig weddw ac yn berchen ei chartref ei hun. Mae ganddi nifer o gyflyrau iechyd yn cynnwys pwysedd gwaed a colesterol uchel ac arthritis a threuliodd 3 wythnos yn yr ysbyty yn ddiweddar yn dilyn ei strôc. Roedd yn annibynnol iawn cyn hynny er gwaethaf ei hiechyd. Mae ei dwy ferch a'u teuluoedd i gyd yn byw gryn bellter i ffwrdd.
Cysylltodd Mrs Morris gyda Gofal a Thrwsio gan ei bod yn bryderus am gyflwr ei tho. Roedd olion dŵr yn nwy o'r ystafelloedd gwely ac roedd hyn yn achosi gofid mawr iddi.
Fe wnaeth Swyddog Technegol Gofal a Thrwsio ymweld, canfod y broblem a chadarnhau fod gwaethygiad y to yn broblem fawr a bod angen to newydd. Ceisiwyd trwsio'r to nifer o weithiau yn y gorffennol ond nid oedd wedi datrys y problemau. Roedd y to wedi o asbestos rhychog a byddai angen contractwyr arbenigol ar gyfer unrhyw waith. Derbyniodd y swyddog technegol ddau ddyfynbris gan gontractwyr gyda chymwysterau addas ac roedd cost y gwaith yn £9,492 (yn cynnwys TAW).
Dim ond ei phensiwn gwladol oedd gan Mrs Morris i fyw arno ac nid oedd ganddi unrhyw arian wrth gefn i dalu am do newydd.
Bu Gweithiwr Achos Gofal a Thrwsio yn gweithio gyda Mrs Morris i ganfod a gwneud cais am gyllid dyngarol i dalu am y to newydd. Oherwydd bod ei diweddar ŵr wedi gwasanaethu yn y Royal Pioneer Corps derbyniwyd cyfanswm o £8,437 gan Gronfa Ddyngarol y Fyddin, y Royal Logistic Corps, Cronfa Argyfwng SSAFA a'r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Fe wnaeth y Gweithiwr Achos hefyd gynnal gwiriad budd-daliadau i sicrhau fod Mrs Morris yn hawlio popeth oedd ar gael iddi. Nid oedd Mrs Morris yn hawlio lwfans Gweini felly gwnaed cais am hynny gan arwain at ddyfarnu'r gyfradd uwch (£87.65 yr wythnos). Fel canlyniad roedd Mrs Morris eisiau cyfrannu at gost y gwaith a rhoddodd £300.
Roedd yn rhaid i'r gweithiwr achos ganfod y £756 oedd ar ôl cyn y gallai'r gwaith ddechrau a gwnaeth gais llwyddiannus i Gronfa Cartrefi Iach i Bobl Hŷn Gofal a Thrwsio.
Mae'r gronfa hon, a drefnir gan Care & Repair Cymru, ar gael i gleientiaid Gofal a Thrwsio ledled Cymru sy'n cyrraedd y meini prawf. Roedd y £4,554 a gafwyd o ymgyrch Big Give 2018 yn gyfraniad sylweddol i'r gronfa.
Yn dilyn y gwaith yn gosod to newydd, mae Mrs Morris yn awr yn byw mewn cartref cynnes a diogel heb unrhyw ddŵr yn dod mewn drwy'r to. Mae ei hincwm wythnosol wedi cynyddu oherwydd iddi wneud cais am Lwfans Gweini ac mae ei lles cyffredinol wedi gwella gan nad yw'n pryderu am y to erbyn hyn.