Gweithio gyda Ni
Ein pobl yw craidd ein busnes. Hwy yw ein hased fwyaf ac maent yn hanfodol i'n llwyddiant.
Staff sy'n gweithio i ddarparu ystod eang o wasanaethau i asiantaethau Gofal a Thrwsio ar ran pobl hŷn ledled Cymru. Caiff y gwerthoedd a rannwn eu dangos yn y ffordd y gweithiwn gyda'n gilydd ac adolygwn ymrwymiad staff i'r gwerthoedd hyn yn ystod eu gwerthusiad blynyddol
Ein gwerthoedd
Cefnogol
Rydym yn credu mewn gwrando, helpu ac annog ei gilydd. Rydym yn parchu pob syniad a barn. Rydym yn agored, tryloyw ac yn ymddiried yn ei gilydd.
Angerddol
Mae ein holl gwsmeriaid, ansawdd ein gwasanaethau, ein henw da a'n gilydd yn hollbwysig i ni. Rydym wrth ein bodd yn ein gwaith, ac yn hollol ymroddedig i wneud gwahaniaeth
Grymuso
Rydym yn cydnabod cryfder ac amrywiaeth pobl ac yn gwerthfawrogi pawb mewn ffordd gyfartal. Rhoddwn gyfleoedd i bobl ddatblygu a ffynnu. Rhoddwn ryddid i wneud y gwaith, a gwyddom fod camgymeriadau yn rhan o ddysgu a gwella.
Dathlu a chael hwyl
Rydym yn credu mewn amgylchedd gwaith hwyliog gyda rhyddid a hyblygrwydd sy'n creu egni cadarnhaol, mwynhad a'n helpu i fwynhau'r heriau a wynebwn fel Tîm. Rydym yn dathlu yn ein llwyddiant.
Arloesedd
Rydym yn meddwl am syniadau newydd, aros o flaen y gêm, peidio ofni methu ac ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfle mewn amgylchedd gwaith sy'n annog creadigrwydd. Nid ydym yn gadael i'n breuddwydion aros fel breuddwydion.
Atebol
Cymerwn gyfrifoldeb am ein gweithredoedd fel unigolion, timau ac fel sefydliad