Amdanom Ni
Rydym yn gorff elusennol cenedlaethol a gweithiwn i sicrhau fod gan bob person hŷn gartref diogel a chlyd sy'n addas i'w hanghenion.
Byddwn yn darparu gwasanaethau ar gyfer y rhwydwaith Asiantaeth Gofal a Thrwsio ar draws y wlad.
Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:-
- arweinyddiaeth a chynrychiolaeth genedlaethol ar ymatebion polisi, gwella gwasanaeth ac arloesi
- cydlynu CARIS, system gwybodaeth genedlaethol Gofal a Thrwsio, yn defnyddio perfformiad cenedlaethol a gwerthusiad i fod yn sail i ymateb polisi ac adroddiadau cenedlaethol ar ganlyniadau gwasanaethau
- gwybodaeth polisi a briffio
- digwyddiadau hyfforddiant a rhwydweithio i hwyluso cysondeb gwasanaethau a rhannu arfer gorau
- cefnogaeth a datblygu asiantaeth
- cynyddu ymwybyddiaeth brand, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu cenedlaethol
- darparu gwasanaethau cefnogaeth i Fyrddau Asiantaethau i'w helpu i werthuso a gwella eu perfformiad a chanlyniadau
- hyrwyddo a hwyluso mwy o gydweithio a gweithio partneriaeth yn y sector
- sicrhau mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau rheng-flaen a phrosiectau newydd.
Drwy ein gwaith a’r berthynas agos â’r Asiantaeth, byddwn yn gwrando ar anghenion a dymuniadau pobl hŷn, gan drosglwyddo’r rheiny i lunwyr polisïau Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yma’n dylanwadu ar syniadau ym maes polisi tai pobl hŷn, a pholisïau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, sy’n annatod yn gysylltiedig â darparu cartrefi addas safon uchel.
Ein hamcanion craidd yw:
- Hyrwyddo anghenion tai pobl hŷn mewn tai perchen-breswylydd a rhent preifat drwy lobio cenedlaethol effeithlon a pharhau i ddatblygu partneriaethau cenedlaethol;
- Cynorthwyo i gyflawni amcanion, polisi a strategol allweddol y Llywodraeth;
- Darparu gwasanaethau a chyngor i Asiantaethau Gofal a Thrwsio ar geisiadau cyllid grant Llywodraeth Cymru, a gwybodaeth ar berfformiad Asiantaethau Gofal a Thrwsio a chanlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer pobl hŷn;
- Hyrwyddo'r cysylltiadau rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol;
- Hyrwyddo gwasanaethau Gofal a Thrwsio drwy'r holl gyfryngau a rhwydweithiau strategol, gwleidyddol a gwirfoddol;
- Hysbysu, cynghori a chefnogi asiantaethau Gofal a Thrwsio i ddarparu gwasanaethau sy'n trin anghenion tai pobl hŷn unigol;
- Cynghori asiantaethau ar faterion yn cyfeirio at y newidiadau gwleidyddol, economaidd a demograffig sy'n cael effaith ar fywydau pobl hŷn;
- Diogelu gwerthoedd, safonau, ansawdd gwasanaeth a brand y mudiad Gofal a Thrwsio a datblygu canllawiau arfer da a gwybodaeth gadarn.
- Diogelu arian cyhoeddus sylweddol a fuddsoddwyd yn y mudiad drwy ddatblygu systemau cadarn sy'n monitro a gwerthuso ansawdd y gwasanaethau a'r canlyniadau a sicrhawyd;
- Rhoi llwyfan profiadol yr ymddiriedir ynddo ar gyfer trafod, arloesi a gwybodeath ar anghenion tai pobl hŷn yng Nghymru.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â'n swyddfa ar 02920 107580, neu unhyw un o'n staff.