Aelodau Masnachol
Mae dod yn Aelod Masnachol yn ffordd wych o ddangos eich ymrwymiad i wella cyflwr tai ar gyfer pobl hŷn.
Yn gyfnewid am hynny, gallwn gynnig cyfleoedd i’ch busnes hysbysebu eich cynhyrchion, a rhannu eich negeseuon gyda’r mudiad Gofal a Thrwsio a thu hwnt.
Aelodau Masnachol Aur

Lifeline24
Mae Lifeline24 yn darparu larymau personol cost isel i'r henoed a phobl anabl ledled y DU. Mae larwm Lifeline a wisgir o amgylch y gwddf yn galluogi defnyddwyr i alw am gymorth dim ond drwy bwyso botwm. Os ydyn nhw'n teimlo'n sâl neu'n cwympo, y cyfan …
Mae Lifeline24 yn darparu larymau personol cost isel i'r henoed a phobl anabl ledled y DU. Mae larwm Lifeline a wisgir o amgylch y gwddf yn galluogi defnyddwyr i alw am gymorth dim ond drwy bwyso botwm. Os ydyn nhw'n teimlo'n sâl neu'n cwympo, y cyfan y mae angen iddynt ei wneud yw pwyso'r botwm ar eu larwm. O fewn eiliadau, bydd ein Tîm Ymateb 24/7 yn ateb yr alwad, yn asesu'r argyfwng, ac yn anfon help. Mae'r larwm, sydd ar gael fel pecyn misol neu becyn blwyddyn, yn cynnwys uned sylfaen Lifeline, larwm gwrth-ddŵr (pellter o 100m), a chadwyn i’w gwisgo o amgylch y gwddf a band arddwrn. Defnyddiwch god CRC10 i gael disgownt o £10.
visit www.lifeline24.co.uk

Solon Security
Mae Solon Security yn cael ei gydnabod fel prif gyflenwr cynhyrchion diogelwch cymunedol y DU. Ar ôl gweithio gydag amryw o gynghorau, cymdeithasau tai a darparwyr gofal dros 25 mlynedd, rydym yn defnyddio'r profiad hwn o weithio gyda chwsmeriaid i ddarpa…
Mae Solon Security yn cael ei gydnabod fel prif gyflenwr cynhyrchion diogelwch cymunedol y DU. Ar ôl gweithio gydag amryw o gynghorau, cymdeithasau tai a darparwyr gofal dros 25 mlynedd, rydym yn defnyddio'r profiad hwn o weithio gyda chwsmeriaid i ddarparu atebion sy'n arwain y farchnad. Mae ein dewis o ofal a alluogir gan dechnoleg yn helpu i wneud gwahaniaeth i filoedd o breswylwyr drwy’r DU. Mae ein nwyddau tai a lles yn cynyddu’n gyson, felly mae nifer o ddulliau effeithlon ar gael i breswylwyr bregus. Rydym yn falch o gynnig y dewis ehangaf o allweddi diogel yn y DU, gydag atebion i gyd-fynd â phob angen, amgylchedd a chyllideb benodol.
visit www.solonsecurity.co.uk

Altro
O ran tai cymdeithasol ac addasiadau i'r cartref, mae'r ffordd y mae cartref yn edrych yr un mor bwysig â'r ffordd y mae'n gweithio. Mae angen i fannau byw gael ymdeimlad o arddull, mae angen i fannau cymunedol fod yn groesawgar, yn sensitif i sŵn ac yn h…
O ran tai cymdeithasol ac addasiadau i'r cartref, mae'r ffordd y mae cartref yn edrych yr un mor bwysig â'r ffordd y mae'n gweithio. Mae angen i fannau byw gael ymdeimlad o arddull, mae angen i fannau cymunedol fod yn groesawgar, yn sensitif i sŵn ac yn hawdd eu glanhau ac mae angen i geginau ac ystafelloedd ymolchi gydymffurfio â'r safonau uchaf o ran diogelwch a hylendid. Bydd dewis Altro o loriau a waliau cyfoes gyda lliwiau traddodiadol, gwahanol weadau a gorffeniadau – gan gynnwys pren – yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i orffen adeilad newydd neu uwchraddio llety a chyfleusterau sy'n bodoli eisoes.
visit www.altro.co.uk

AKW
Mae AKW yn arwain marchnad y DU o ran y cawodydd, y nwyddau ar gyfer bywyd bob dydd a’r ceginau sydd ar gael i bobl ag anawsterau symud. Mae’r dewis, y prisiau cystadleuol, a’r gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn golygu mai AKW yw'r dewis cyntaf i gleient…
Mae AKW yn arwain marchnad y DU o ran y cawodydd, y nwyddau ar gyfer bywyd bob dydd a’r ceginau sydd ar gael i bobl ag anawsterau symud. Mae’r dewis, y prisiau cystadleuol, a’r gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn golygu mai AKW yw'r dewis cyntaf i gleientiaid ledled y DU a thramor. Rydym yn gweithio'n agos gyda Therapyddion Galwedigaethol a Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol, i ddylunio a chynhyrchu dewis llawn o gawodydd, ceginau a nwyddau sy’n rhoi cymorth i bobl symud. Rydym yn frwd dros alluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, a chadw eu hannibyniaeth. Caiff pob un o'n nwyddau ei brofi'n drylwyr, ei ddylunio a’i wneud yn benodol ar gyfer y defnyddiwr terfynol. Ynghyd â gwasanaethau cwsmeriaid o'r radd flaenaf rydym hefyd yn cynnig Gwasanaeth Dylunio/Asesu cynhwysfawr a Gwasanaeth Ôl-werthu.
visit akw-ltd.co.uk

The Key Safe Company
Ers 1995, rydym wedi darparu cynhyrchion a gwasanaethau o'r safon uchaf. Dangosir ein hangerdd gan ein hardystiad ISO9001 ac aelodaeth o fenter Heddlu'r Deyrnas Unedig 'Diogelu Drwy Ddylunio'. Gan weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr blaenllaw yn y d…
Ers 1995, rydym wedi darparu cynhyrchion a gwasanaethau o'r safon uchaf. Dangosir ein hangerdd gan ein hardystiad ISO9001 ac aelodaeth o fenter Heddlu'r Deyrnas Unedig 'Diogelu Drwy Ddylunio'. Gan weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant, megis y TSA, sefydliadau di-elw ac awdurdodau lleol, datblygwyd y Supra C500 KeySafe™ - y blwch allweddi diogel gwreiddiol a ffafriwyd gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig sydd wedi mynd trwy brofion ymosodiad annibynnol, trylwyr i sicrhau ei fod “mor ddiogel â’ch drws ffrynt". Mewn 25 mlynedd o fasnachu, yr ydym wedi dosbarthu mwy na 2.5 miliwn o flychau allweddi diogel. Mae gennym amrywiaeth o flychau allweddi diogel gan gynnwys modelau dros dro.