Care & Repair Cymru yw corff cenedlaethol Gofal a Thrwsio yng Nghymru ac mae’n elusen gofrestredig.

Credwn yn angerddol yn hawliau pobl hŷn i gael cartrefi o safon ac i fyw’n annibynnol cyhyd ag y byddant yn dymuno hynny. Trwy waith ymchwil, ymgyrchu dros well polisïau llywodraeth, ynghyd â chydweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill, rydym yn hyrwyddo anghenion tai pobl hŷn yng Nghymru.

Mae Care & Repair Cymru yn cefnogi’r Asiantaethau Gofal a Thrwsio er mwyn iddynt fedru helpu hyd yn oed fwy o bobl hŷn. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu llais unigol ar gyfer rhannu deilliannau ac effaith gwasanaethau, trwy ariannu uniongyrchol i ddarparu mwy o wasanaethau, ac arbenigedd marchnata a hyfforddi.

Cysylltwch â Care & Repair Cymru os oes gennych fwy o gwestiynau am ein heffaith cenedlaethol, os ydych angen cyswllt cyfryngau, neu os hoffech wybod mwy am ein safbwyntiau polisi. 


Care & Repair Agencies

Mae Asiantaethau Gofal a Thrwsio yn gweithio wyneb yn wyneb gyda phobl hŷn yn darparu gwasanaethau, Rhyngddynt, maent ym mhob rhan o Gymru ac yn ymweld â thros 40,000 o gartrefi pob blwyddyn.

Mae pob un o’r 13 Asiantaeth Gofal a Thrwsio yn sefydliadau di-elw, ac yn credu’n gryf na ddylai unrhyw berson hŷn fyw mewn cartref oer ac anniogel.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol os ydych angen ein gwasanaethau yn eich cartref.

Find your agency
Cartref oer?
Stepiau peryglus?
Gwteri’n gollwng?
Dyled tanwydd?
Goleuadau wedi torri?

Gallwn eich helpu.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol heddiw.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.