Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Gwasanaeth gwella cartrefi annibynnol di-elw yw Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Amdanom ni

    Ein rôl yw helpu pobl hŷn dros 60 oed ac oedolion anabl sy’n byw mewn tai sector preifat trwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol mewn perthynas â gwaith atgyweirio, adnewyddu tai, gwaith cynnal a chadw ac addasiadau i’w cartrefi i’w galluogi i fyw yn annibynnol mewn cartrefi saff, cynnes a diogel.

    Gallwn ddarparu cyngor a chymorth ymarferol gyda’r canlynol:

    • Aros yn ddiogel yn eich cartref eich hun a chynnal Gwiriad Cartref Iach;
    • Dewisiadau / datrysiadau tai i’ch galluogi chi i barhau’n annibynnol yn eich cartref eich hun;
    • Cyngor ac arweiniad technegol mewn perthynas â gwaith atgyweirio / gwelliannau neu addasiadau;
    • Uchafu incwm: gall ein Gweithiwr Achos ddarparu asesiad budd-daliadau ar eich cyfer i sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau priodol;
    • Argymell contractwyr o’n rhestr contractwyr cymeradwy;
    • Cymorth ymarferol ar drefnu a monitro gwaith i sicrhau ei fod wedi ei gyflawni i safon dderbyniol;
    • Cymorth i wneud ceisiadau am grantiau a budd-daliadau;
    • Gwneud ceisiadau am grantiau i wneud eich tŷ yn fwy cynnes;
    • Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub;
    • Gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach yn sicrhau bod addasiadau hanfodol yn cael eu gwneud i gartref claf fel bod modd eu rhyddhau o’r ysbyty’n ddiogel.
    • Ymdopi’n well – gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl hŷn sydd â nam ar y synhwyrau.

    Dofennau

    Hysbysiad Preifatrwydd

    Polisi Preifatrwydd

    Siarter Cleientiaid

    
    
                                    
    
                    

    Achrediadau

    Mae gennym achrediad AQS

    Y Safon Ansawdd Cyngor (AQS) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion lles cymdeithasol.

    Rydym yn gontractwr diogel

    Rydym wedi ennill achrediad SafeContractor Alcumulus am sicrhau rhagoriaeth mewn iechyd a diogelwch.

    Ein Partneriaid

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.