Llogi ystafell, gyda’r holl elw’n mynd yn ôl i’r elusen.

Mewn lleoliad ar gyrion canol dinas Caerdydd gyda mynediad hwylus at yr M4, gall Care & Repair Cymru gynnig ystafell gyfarfod braf i’w llogi. Yn berffaith ar gyfer diwrnod hyfforddiant, gyfarfod neu seminar, mae’r lleoliad ar gael i’w logi rhwng 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Fel elusen gofrestredig, mae’r holl elw’n mynd tuag at helpu pobl hŷn sydd mewn angen.

Prisiau (Saesneg)

Mae’r lleoliad yn cynnwys:

  • Lle i hyd at 30 o bobl

  • Parcio am ddim ar y safle

  • Mynediad i gadeiriau olwyn

  • Arlwyo (ar gais)

  • Te a Choffi (ar gais)

  • Wi-Fi am ddim

  • Siartiau troi a byrddau gwyn

  • Gliniadur a thaflunydd

Gwybodaeth bellach ac archebu

Polisi Canslo

Pe byddech yn gorfod canslo archeb sydd wedi ei chadarnhau, codir tâl fel a ganlyn:

  • Un mis neu fwy cyn y digwyddiad – dim tâl

  • Llai nag un mis ond mwy na bythefnos cyn y digwyddiad – 50%.

  • Llai na bythefnos ond mwy nag un wythnos cyn y digwyddiad – 75% o gyfanswm y ffi.

  • Un wythnos neu lai cyn y digwyddiad – 100% o gyfanswm y ffi

Er mwyn canslo, dylid anfon hysbysiad ysgrifenedig at events@careandrepair.org.uk. Daw i rym ar y dyddiad y caiff ei dderbyn.

“Diolch am eich help ar ddiwrnod y cwrs hyfforddiant. Roedd yn lleoliad da i’w ddefnyddio – nid yn unig oherwydd y cyfleusterau ond am ei fod yn sefydliad go iawn lle mae pobl yn gwneud gwaith pwysig.Weithiau mae cyrsiau mewn gwestai 4-5 seren yn medru teimlo’n afreal. Gobeithiaf y gallwn gynnal cyrsiau pellach gyda chi.”

– Huw Edwards

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.