1979

Sefydlu Gofal a Thrwsio

Sefydlwyd Gofal a Thrwsio ym 1979 yn Ferndale, Rhondda. Roedd yn ymateb i broblemau dwysoedd yn wynebu perchnogion hĹ·n a oedd yn byw mewn tai anaddas i fyw ynddynt gyda diffyg cyfleusterau sylfaenol.

1985

Wyth Asiantaeth Gofal a Thrwsio

Dilynwyd prosiect arloesol Ferndale gan ddatblygiad wyth Asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghymru erbyn canol yr 80au. Rhoddwyd hwb i’r datblygiad drwy “Menter Asiantaeth a Gynorthwyir” oedd yn derbyn cefnogaeth weithredol y Swyddfa Gymreig, a “Care & Repair Ltd”, oedd ar y pryd yn helpu i ddatblygu Asiantaethau ar draws Cymru a Lloegr.

1991

Sefydlu Care & Repair Cymru

Cynhaliwyd cynhadledd bwysig, sef “Gofal a Thrwsio yng Nghymru – Y Ffordd Ymlaen”, yn Rhagfyr 1990, a fynychwyd gan Gyngor Defnyddwyr Cymru, y Swyddfa Gymreig, Care & Repair Ltd, Cynghorau Sir a Dosbarth Cymru, prosiectau Gofal a Thrwsio Cymru a sefydliadau academaidd.

Cytunodd y Gynhadledd ar nifer o gamau gweithredu pwysig yn cynnwys cyllid ac amserlen i ddatblygu’r Asiantaeth i’r dyfodol, ynghyd â chynllun i sefydlu Care & Repair Cymru yn 1991 fel corff annibynnol ar wahân.

1995

Ugain Asiantaeth Gofal a Thrwsio

Gydol y 1990au, gan gydnabod y problemau tai cynyddol oedd yn wynebu pobl hŷn ynghyd â gwerth Gofal a Thrwsio, cynyddwyd cefnogaeth ariannol y Swyddfa Gymreig a alluogodd ffurfiant Asiantaethau newydd. Gyda Care & Repair Cymru yn arwain ar ddatblygu Asiantaethau newydd, roedd deg asiantaeth wedi eu sefydlu erbyn 1993, ac ugain erbyn diwedd 1995.

2004

Ar Draws Pob Rhan o Gymru

Yn 2003-2004 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cynyddu’r cyllid i Asiantaethau Gofal a Thrwsio er mwyn iddynt ddarparu gwasanaethau craidd Gofal a Thrwsio ar draws y wlad drwy 22 Asiantaeth – un ar gyfer pob un o’r 22 sir yng Nghymru.

2013

Uno Asiantaethau

Oherwydd gostyngiad i’r grant yn sgil yr hinsawdd economaidd anodd, dechreuwyd uno Asiantaethau Gofal a Thrwsio, gyda’r nod o leihau costau rheolaeth a gorbenion a gwarchod staff a gwasanaethau rheng flaen. Erbyn 2016, roedd 13 Asiantaeth yn darparu gwasanaethau Gofal a Thrwsio, gan barhau ar draws Cymru gyfan.

2015

Care & Repair Cymru yn Troi’n Elusen

Daeth Care & Repair Cymru yn elusen gofrestredig gyda’r Comisiwn Elusennau yn 2015. Ers hynny, mae Care & Repair Cymru a’r Asiantaethau wedi gweithio i amrywio’r ffrydiau incwm er mwyn tyfu gwasanaethau a’u diogelu rhag unrhyw doriadau pellach i grantiau.

Gwnaed ceisiadau llwyddiannus am gyllid ychwanegol gan y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Byrddau Iechyd Lleol a Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.

Mae Asiantaethau Gofal a Thrwsio hefyd wedi datblygu mentrau cymdeithasol tasgmyn lleol a gwelliannau cartref llwyddiannus, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ailfuddsoddi i ddarparu mwy o wasanaethau Gofal a Thrwsio.

2023

Y Presennol a Thu Hwnt

Rydym wedi ein cyffroi gan yr hyn sydd o’n blaenau ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i barhau i helpu pobl hŷn sy’n byw mewn tai gwael.

Mae ein dyfodol yn dibynnu ar gymysgedd gref o gyllid Llywodraeth Cymru, ceisiadau am arian cenedlaethol a lleol gan Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, y Loteri, a phartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus o’r un anian. Rydym yn parhau ar daith o sicrhau lefel uwch o gymorth ariannol trwy gyfraniadau, codi arian a rhoddion mewn ewyllysiau.

Cartref oer?
Stepiau peryglus?
Gwteri’n gollwng?
Dyled tanwydd?
Goleuadau wedi torri?

Gallwn eich helpu.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol heddiw.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.